Mwy o Newyddion

RSS Icon
14 Rhagfyr 2015

Band eang cyflym iawn - Nadolig cynnar i bobl Nasareth

Mae anrheg Nadolig cynnar wedi dod i bobl Nasareth.

Gall y cartref cyntaf yn y pentref yng nghefn gwlad Gwynedd archebu band eang cyflym iawn fydd yn cyrraedd cyflymder o hyd at 330Mbps – gan eu gwneud yn rhai o’r adeiladau sydd wedi’u cysylltu orau ym Mhrydain. 

Bydd y cyflymder cyflym iawn yn galluogi pobl i ddefnyddio’r rhyngrwyd yn well.  Er enghraifft, gall pawb yn y cartref wneud eu pethau eu hunain ar-lein, pawb ar yr un pryd, boed yn ffrydio ffilmiau manylder uwch, lawrlwytho cerddoriaeth, chwarae gemau, astudio neu gadw mewn cysylltiad â theulu a ffrindiau. 

Gwnaethpwyd hyn yn bosib drwy ddefnyddio technoleg o’r enw cysylltiad ffeibr i’r adeilad (FTTP) ble y mae ffibr cyflym yn rhedeg yn uniongyrchol o’r gyfnewidfa ffôn i’r eiddo, yn hytrach nag i flwch ar ochr y ffordd. 

Ledled Gwynedd, mae Cyflymu Cymru eisoes wedi sicrhau bod gan 45,500 o gartrefi a busnesau fand eang cyflym iawn drwy gyfuniad o FTTP a thechnoleg band eang cyflym iawn Ffibr i’r Cabinet (FTTP) . 

Meddai Julie James, Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg Llywodraeth Cymru: “Mae’r ffaith y gall yr adeilad cyntaf yng nghymuned wledig Nasareth archebu band eang cyflym iawn yn dangos sut y mae Cyflymu Cymru yn gwneud gwahaniaeth ledled Cymru, gan gynnwys mewn ardaloedd sy’n anodd eu cyrraedd.  Dechreuodd y cynllun yng Ngwynedd a bellach gall 45,500 o adeiladau yn y sir ei ddefnyddio.

“Bu hon yn flwyddyn wych i Cyflymu Cymru, gyda nifer yr adeiladau sy’n gallu derbyn band eang cyflymach yn fwy na 500,000 bellach, a Chymru yn arwain y ffordd ymysg y gwledydd datganoledig, gyda’r nifer sy’n gallu derbyn band eang. 

“Yn 2016, bydd y rhaglen yn mynd yn ei blaen, gan ddod â chyflymder band eang cynt i’r ardaloedd na fyddai’n gallu ei dderbyn fel arall.  

Meddai Ed Hunt, cyfarwyddwr rhaglen Cyflymu Cymru: “Mae’n hynod briodol bod cymuned o’r enw Nasareth yn derbyn band eang cyflym iawn yn ystod y Nadolig!

“Mae pentref Nasareth wedi ymuno â’r rhestr gynyddol o gymunedau gwledig yng Nghymru sydd bellach yn gallu dechrau defnyddio band eang cyflym iawn.” 

“Wrth i’r rhaglen barhau, byddwn yn gweld mwy a mwy o gymunedau fel Nasareth yn gallu manteisio ar gyflymder band eang cyflym iawn. 

“I’r cartrefi a’r busnesau hynny sy’n gallu derbyn band eang cyflym iawn, hoffwn eu hannog i ymuno â darparwr gwasanaeth – pam na wnewch chi hynny fel adduned flwyddyn newydd?” 

Meddai’r cynghorydd plwyf lleol, O P Huws, sy’n byw yn Nasareth: “Rwy’n croesawu’r gwasanaeth hwn yn yr ardal, gan fod band eang cyflym a dibynadwy yn hanfodol i bobl sy’n byw mewn cymunedau gwledig.” 

Mae Cyflymu Cymru bellach wedi cynnig band eang cyflym iawn i fwy na 530,000 o gartrefi a busnesau ledled y wlad ers dechrau’r rhaglen.  Dyma’r bartneriaeth fwyaf o’i bath yn y DU a phan fydd Cyflymu Cymru’n cael ei gyfuno â chynllun masnachol y sector preifat, bydd mwy na 1.24 miliwn o adeiladau yn gallu derbyn band eang ffibr yng Nghymru. 

Roedd Ofcom, y rheoleiddiwr, yn cydnabod bod band eang cyflym iawn ar gael i fwy o adeiladau yng Nghymru nag unrhyw un o’r gwledydd datganoledig.

Mae Rhaglen Cyflymu Cymru yn rhaglen enfawr fydd yn golygu gosod 17,500kms o wifren ffibr optig, a gosod oddeutu 3,000 o flychau gwyrdd ar ochr y ffordd, gan olygu y bydd 130 o adeiladau yn ychwanegol, ar gyfartaledd, yn cael mynediad i fand eang cyflym iawn ledled Cymru bob awr. 

Mae Cyflymu Cymru yn bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU, Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a BT.  

Am fanylion llawn manteision band eang ffibr cyflym, sut i gofrestru ar gyfer y newyddion diweddaraf o pryd y daw i ardal a sut i fanteisio arno, ewch i wefan Cyflymu Cymru:  www.superfast-cymru.com  
 

Rhannu |