Mwy o Newyddion
Plaid Cymru yn rhoi rhybudd datganoli i Lywodraeth Prydain
Mae Leanne Wood Arweinydd Plaid Cymru ac Arweinydd Seneddol y blaid, Hywel Williams AS, wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog David Cameron gan rybuddio na fydd Plaid Cymru yn cefnogi Mesur Cymru'n sy'n gwanhau pwerau'r Cynulliad Cenedlaethol drwy eu dychwelyd i San Steffan.
Mae'r llythyr, sydd hefyd wedi ei anfon i Ysgrifennydd Gwladol Cymru, yn nodi sut y mae'r drafft Mesur Cymru yn methu delifro ar argymhellion Comisiwn traws-bleidiol Silk a sut y mae'n cyfyngu ar allu'r Cynulliad i ddeddfu, ac felly'n tanseilio ewyllys refferendwm 2011 o blaid pwerau deddfu i Gymru.
Dywedodd Leanne Wood, tra bod Plaid Cymru wedi cymryd rhan yn y broses a arweiniodd at ddrafft Mesur Cymru gydag ewyllys da, ni fyddai ei phlaid yn cefnogi mesur sy'n tanseilio barn glir pobl Cymru a bleidleisiodd yn 2011 o blaid y pwerau deddfu cynradd llawn hyn.
Meddai: "Drwy gydol y broses a arweiniodd at greu drafft Mesur Cymru, mae cynrychiolwyr Plaid Cymru wedi gweithredu gydag ewyllys da.
"Serch hyn, ni allwn a ni fyddwn yn derbyn mesur sy'n gwanhau pwerau'r Cynulliad gan eu dychwelyd i San Steffan a thanseilio setliad 2011.
"Yn refferendwm 2011, rhoddodd pobl Cymru fandad clir i'r Cynulliad Cenedlaethol gael pwerau deddfu cynradd llawn. Mae'r drafft Mesur Cymru yn ei ffurf bresennol yn tanseilio'r mandad hwnnw.
"Mae ewyllys pobl Cymru yn glir o blaid grymuso'r Cynulliad Cenedlaethol. Gwnaeth Comisiwn traws-bleidiol Silk yr arolwg mwyaf erioed o'r farn gyhoeddus yng Nghymru gan ddarganfod fod mwyafrif clir o blaid Cymru'n cael mwy o reolaeth dros ei materion ei hun.
"Ni fydd Plaid Cymru yn pleidleisio o blaid Mesur sy'n methu parchu'r farn hon, unai yn San Steffan neu yn y Cynulliad."
Ychwanegodd Arweinydd Seneddol Plaid Cymru Hywel Williams AS: "Ar hyn o bryd, mae'r ffaith fod gan Lywodraeth y DG veto dros faterion Cymreig yn rhwystr amlwg.
"Mae'n arwydd o gam sylweddol yn ôl o setliad presennol Cymru ac yn ffafrio San Steffan yn fwy fyth o ran ei rheolaeth dros faterion Cymreig.
"Mae Plaid Cymru yn cytuno gyda Llywodraeth y DG fod Mesur Cymru yn gyfle i greu setliad datganoli clir a pharhaol i'n cenedl.
"Rydym wastad wedi cyfrannu'n adeiladol i drafodaethau gan ddod a syniadau uchelgeisiol ac ymarferol i'r bwrdd ar sut i gryfhau'r Mesur.
"Serch hyn, mae cynlluniau Llywodraeth y DG ar hyn o bryd yn gadael Cymru'n agored i golli pwerau i San Steffan.
"Os yw democratiaeth Gymreig am aeddfedu ac os ydym am sicrhau llywodraeth mwy atebol, rhaid i ni symud ymlaen, nid yn ôl.
"Gobeithiwn gyfarfod y Prif Weinidog yn fuan i drafod y mater holl-bwysig hwn ac i weithio gyda'n gilydd i sicrhau Mesur sydd, uwchlaw popeth arall, yn parchu ewyllys pobl Cymru."