Mwy o Newyddion

RSS Icon
14 Rhagfyr 2015

Leanne Wood - Rhowch amser i ffwrdd i weithwyr gefnogi'r tîm cenedlaethol

Mae Arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood heddiw wedi galw am ddatgan 16eg Mehefin 2016 yn ddiwrnod sifig cenedlaethol er mwyn i'r genedl gyfan fedru gwylio tim pel-droed Cymru yn gwneud hanes wrth iddynt herio Lloegr ym Mhencampwriaeth Ewropeaidd UEFA y flwyddyn nesaf.

Yn dilyn cyrraedd rowndiau terfynol twrnament arwyddocaol am y tro cyntaf ers 1958, cyhoeddwyd dros y penwythnos y bydd tim pel-droed Cymru yn perthyn i Grŵp B ac yn wynebu Slovakia dydd Sadwrn 11 Mehefin, Lloegr 16 Mehefin a Rwsia 20 Mehefin.

Yn sgil y ffaith y bydd Cymru yn chwarae Lloegr yn ystod oriau gwaith, dylid annog cyflogwyr i sicrhau fod pob aelod staff sydd a diddordeb yn cael y prynhawn i ffwrdd o'r gwaith i fedru cefnogi ein tim cenedlaethol ac anfon neges glir fod y genedl gyfan y tu ol i'r tim.

Dywedodd Leanne Wood Arweinydd Plaid Cymru: "Mae llwyddiant hanesyddol tim pel-droed cenedlaethol Cymru wedi creu ton o gyffro ledled y wlad.

"Drwy gyrraedd rowndiau terfynol y Bencampwriaeth Ewropeaidd - ein twrnament pel-dored arwyddocaol cyntaf ers 1958 - mae'r rheolwr Chris Coleman a'r sgwad cyfan wedi rhoi Cymru ar y map chwaraeon rhyngwladol gan ein hatgoffa o botensial ein cenedl dalentog.

"Nawr ein fod yn gwybod manylion gemau Cymru yn y twrnament, bydd miloedd o gefnogwyr eisoes yn cynllunio eu taith i Ffrainc y flwyddyn nesaf.

"I'r rhai na fydd yn cael profi'r gemau yn uniongyrchol, mae hi ond yn deg fod pawb sy'n awyddus i ddilyn y tim tra'n aros gartref yn cael gwneud hynny. Gyda Chymru'n wynebu Slovakia ar ddydd Sadwrn a Rwsia ar nos Lun, y gem yn erbyn Lloegr yw'r unig un fydd yn cymryd lle ar brynhawn yn yr wythnos.

"Yn sgil hyn, hoffwn weld 16 Mehefin 2016 yn cael ei ddatgan yn ddiwrnod sifig fydd yn galluogi pob gweithiwr sydd a diddordeb i gael amser i ffwrdd o'r gwaith i fwynhau'r gem a chefnogi'r tim gan anfon neges glir fod Cymru gyfan y tu ol iddynt.

"Yn ddiweddar mae Plaid Cymru wedi galw hefyd am sefydlu parthau cefnogwyr ym mhob cwr o Gymru, fel yr un yng Nghaerdydd yn ystod Cwpan Rygbi'r Byd, fel y gall pobl ddod at ei gilydd a bod yn dyst i'n tim pel-droed yn gwneud hanes.

"Mae chwaraeon wastad wedi bod yn rym effeithiol wrth ddod a phobl ynghyd. Byddai Llywodraeth Plaid Cymru yn gwneud popeth o fewn eu gallu i wneud y mwyaf o'r cyfle euraidd hwn i arddangos talent Cymreig i'r byd a magu hyder ein cenedl arbennig yn y broses."

Rhannu |