Mwy o Newyddion
'Geoblocking' a'r iaith Gymraeg
Mae Aelod Seneddol Ewropeaidd wedi galw ar y Comisiwn Ewropeaidd i sicrhau bod deddfwriaeth ar wylio rhaglenni teledu dros y we o dramor yn hwyluso defnydd y Gymraeg a ieithoedd lleiafrifol eraill.
Yn ôl Jill Evans o Blaid Cymru mae 'geoblocking' – sef blocio mynediad i gynnwys arlein ar sail lleoliad – yn gallu effeithio yn negyddol ar siaradwyr ieithoedd lleiafrifol.
Mae'r Comisiwn Ewropeaidd wedi cyhoeddi deddfwriaeth ddrafft fydd yn hwyluso mynediad i gynnwys arlein o dramor, ond dim ond dros dro. Bydd y rheoliad ar 'portability' yn caniatau i unigolion gael mynediad i gynnwys o gyfrifoedd megis Netflix, er enghraifft.
Ond dywed Jill Evans bod angen cydbwysedd rhwng ystyriaethau hawlfraint, a'r angen i siaradwyr ieithoedd lleiafrifol allu fwynhau rhaglenni yn eu hieithoedd nhw.
Dywed Jill Evans: "Nid o fewn ffiniau Cymru yn unig y mae galw am raglenni yn yr iaith Gymraeg.
"Mae Cymry Cymraeg yn byw ar hyd a lled y byd a dylai fod modd iddynt fwynhau rhaglenni Cymraeg dros y we. Mae'n anffodus bod cyfyngiadau ar y rhaglenni hyn weithiau yn ôl lleoliad daearyddol.
"Rydyn ni'n gweithio ar lefel Ewropeaidd i weld os oes modd hwyluso'r sefyllfa ar gyfandir Ewrop i ddechrau.
"Wrth gwrs mae'n rhaid parchu rheolau hawlfraint, ond mewn marchnad sengl fel sydd gyda ni yn yr Undeb Ewropeaidd, dylai fod modd oresgyn y problemau presennol."