Mwy o Newyddion

RSS Icon
14 Rhagfyr 2015

Google ar lwybrau Eryri

A hithau’n Ddiwrnod Rhyngwladol y Mynydd ddydd Gwener diwethaf, cyhoeddwyd fod modd i bobl o bob cwr o’r byd weld rhai o lwybrau prysuraf a mwyaf gogoneddus mynyddoedd Eryri o glydwch eu cartrefi, diolch i Google Street View.

Ers lansio “Street View” yn 2007, bu Google yn teithio ar hyd ac ar led y byd yn tynnu lluniau panoramig 360? o strydoedd y byd. Ond yn ystod y ddwy flynedd diwethaf, mae’r cwmni wedi mentro i lefydd sy’n anhygyrch i gerbydau ac yn gynharach eleni, mewn cydweithrediad ag Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, cofnodwyd rhai o lwybrau prysuraf Eryri, gan gynnwys llwybrau’r Wyddfa, Cwm Idwal, Llwybr Mawddach, Lôn Gwyrfai, Foel Ispri, a Llwybr Panorama.

Gyda Google Trekker, sef pecyn 22kg ar eu cefnau a theclyn yn cynnwys 15 camera uwch eu pennau, bu rhai o staff a wardeiniaid gwirfoddol Awdurdod y Parc wrthi’n cofnodi golygfeydd o Eryri ar gyfer Google Street View.

Liz Jenkins, Swyddog System Gwybodaeth Ddaearyddol yr Awdurdod sydd yng ngofal y cynllun yn Eryri ac yn esbonio ymhellach.

Meddai: “Rydym yn hynod o falch o gael cydweithio gyda Google er mwyn sicrhau fod rhinweddau arbennig Eryri ar gael i’w gweld i bawb yn y byd. Wedi i’r delweddau gael eu prosesu, byddwn yn eu defnyddio ar ein gwefan er mwyn i bawb gael eu mwynhau, gan obeithio yn y pen draw y bydd y golygfeydd yn eu hysbrydoli i ymweld ag Eryri a gweld yr ardal ryfeddol hon drostynt eu hunain.”

Yn ogysytal â rhai o lwybrau Eryri, gellir hefyd gweld copaon Skafell Pike a Ben Nevis yn yr un modd. Ychwanegodd Laurian Clemence o Google UK.

“Rydym wrth ein boddau cael dod â chopaon uchaf Prydain at sylw’r byd drwy Street View. Gall yr ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol hyn yng Nghymru, Lloegr a’r Alban gael eu gweld gan unrhyw un sy’n cynllunio ymweliad penodol, neu i’r rhai hynny sydd â diddordeb i ddysgu mwy am bob copa, o’r dirwedd a’r tirlun, i’r llysdyfiant a’r golygfeydd.”

I gyd-fynd â’r cyhoeddiad, cynhyrchwyd fideo gan Awdurdod y Parc sy’n dilyn gwaith cofnodi Google Trekker yn Eryri. Gellir ei weld ar https://goo.gl/C98nxc

Rhannu |