Mwy o Newyddion
Canmol 'gwyrth fodern' staff iechyd a gofal cymdeithasol Cymru
Mae Gweinidogion Llywodraeth Cymru wedi canmol "gwyrth fodern" y gofal y mae staff y GIG a'r gwasanaethau cymdeithasol yn ei ddarparu ar hyd a lled y wlad yn eu neges Nadolig flynyddol heddiw (dydd Llun 14 Rhagfyr).
Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Mark Drakeford a'r Dirprwy Weinidog Iechyd Vaughan Gething wedi diolch i'r 150,000 o staff sy'n gweithio yn y GIG ac ym maes gofal cymdeithasol yng Nghymru am eu gwaith caled cyson wrth ddarparu gofal o safon ragorol.
Dywedodd Mark Drakeford: "Mae ymroddiad ac ymrwymiad ein staff iechyd a gofal cymdeithasol yn arbennig. Er gwaethaf yr holl bwysau ar y GIG a'r maes gofal cymdeithasol, maent yn parhau i fod yn wyrth fodern, yn darparu gofal a thriniaeth na fyddai rhywun wedi eu dychmygu ychydig yn ôl.
"Ar ôl blwyddyn brysur arall, hoffwn ddiolch i'n holl staff am eu hymroddiad a'u gwaith caled. Mae hyn yn rhywbeth y gallwn ni i gyd fod yn falch ohono.
"Bob blwyddyn, bydd rhai pobl eisiau cael gwared ar GIG Cymru ac yn dweud na fydd yn para fawr hirach. Fodd bynnag, maent yn cael eu profi'n anghywir dro ar ôl tro oherwydd y gwasanaeth a'r gofal meddygol yr ydych chi'n ei ddarparu bob awr o bob dydd o'r flwyddyn."
Dywedodd Vaughan Gething: "Mae ein gwasanaeth iechyd yn rhoi triniaeth i fwy o bobl nag erioed o'r blaen, gyda gwell canlyniadau i bobl nag erioed o'r blaen. Mae mwy ohonom yn byw'n hirach. Mae hyn oherwydd ymrwymiad ac ymroddiad diflino ein staff - caffaeliad gorau'r gwasanaeth iechyd.
"Mae GIG Cymru, sy'n darparu gofal am ddim ar yr adeg y mae ei angen, yn rhan annatod o Gymru. Fel llywodraeth, byddwn yn parhau i gefnogi ein gwasanaeth iechyd i ddarparu'r gofal modern, tosturiol mwyaf effeithiol sy'n bosibl."
Llun: Mark Drakeford