Mwy o Newyddion
Gwrthwynebiad chwyrn i doriadau'r Torïaid
Mae Cynghorwyr Gwynedd wedi datgan eu gwrthwynebiad chwyrn i doriadau ariannol dybryd sydd i ddod i wasanaethau trigolion Gwynedd gan y Trysorlys Torïaidd yn Llundain.
Cyflwynwyd cynnig i'r Cyngor llawn gan y Cynghorydd Sian Gwenllian, eiliwyd gan Cyng Dafydd Meurig ac fe'i pasiwyd yn ddiwrthwynebiad gyda chefnogaeth ar draws y grwpiau sy'n cael eu cynrychioli ar y Cyngor.
“Mae’r toriadau yma’n taro’r bobl fwyaf anghenus yng Ngwynedd,” eglura’r Cynghorydd Siân Gwenllian. “Mae’n chwalu’r gwasanaethau cyhoeddus safonol sydd wedi bod yn y sir ac yn gorfodi pob un Cyngor yng Nghymru i wneud toriadau enbyd fydd yn effeithio’n sylweddol ar yr economi leol.
“Fel Cynghorwyr rydym wedi cael ein hethol i wneud gwaith ar ran y trigolion yng Ngwynedd rydyn ni’n eu cynrychioli. Ond dwi’n mawr obeithio bod ein trigolion ni’n ddeall, nid toriadau Cyngor Gwynedd na Phlaid Cymru yw'r rhain, ond toriadau’r Torïaid yn Llundain sy’n cael eu gorfodi arnom yma yng nghefn gwlad Cymru.
“Rydym fel Cynghorwyr Plaid Cymru yn poeni am bobl leol, ysbytai’r ardal, addysg plant a phobl ifanc, trafnidiaeth gyhoeddus, gwasanaethau ieuenctid, canolfannau hamdden, llyfrgelloedd, y celfyddydau a’r holl bethau sy’n sicr o gael eu heffeithio gan y toriadau, rydym yn gwrthwynebu’n llwyr y meddylfryd sy’n gyrru’r toriadau ariannol yma o Lundain."
Yn ôl Arweinydd Plaid Cymru Gwynedd, Y Cynghorydd Dyfed Edwards: “Ein cyfrifoldeb, ein dyletswydd a’n gwaith ni fel Cynghorwyr Plaid Cymru yw llywodraethu Gwynedd a chynrychioli pobl leol yn eu hardaloedd. Ac mi wnawn ni hynny, yn gyfrifol, synhwyrol ac mor deg a thryloyw â phosib ond o dan amgylchiadau hynod anodd.
“Mae polisi’r Llywodraeth Dorïaidd yn San Steffan o dorri gwariant cyhoeddus yn golygu nad oes gan gynghorau unrhyw ddewis ond i weithredu arbedion sylweddol. Trwy gynllunio ariannol gofalus, rydym wedi llwyddo hyd yn hyn yng Ngwynedd i warchod gwasanaethau lleol ac osgoi’r toriadau i wasanaethau y mae cynghorau eraill wedi gorfod eu gweithredu.
“Fodd bynnag, mae penderfyniad y Llywodraeth Dorïaidd i barhau i dorri’r arian rydym yn ei dderbyn i ariannu’r gwasanaethau yma yn golygu nad oes gennym unrhyw opsiwn bellach ond i weithredu toriadau gwasanaeth sylweddol, a hynny yn erbyn ein hewyllys. Bydd rhaid i ni yng Ngwynedd wynebu toriadau o £7 miliwn i wasanaethau o’r gwanwyn nesaf ymlaen,” eglura’r Cynghorydd Dyfed Edwards.
Dros yr wythnosau diwethaf, mae swyddogion a chynghorwyr Gwynedd wedi bod yn annog pobl yng Ngwynedd i leisio barn ynglŷn â pha wasanaethau dylai’r Cyngor eu gweld fel blaenoriaethau cyn gwneud unrhyw benderfyniadau am doriadau yng ngwanwyn 2016.
Yn ôl Cynghorydd Siân Gwenllian: “Dwi wedi gweithio fel cynghorydd sir yn ardal Felinheli ers 10 mlynedd, ac mae rhai cynghorwyr eraill wedi bod yma am fwy o flynyddoedd na hynny. Dydyn ni erioed wedi gorfod meddwl am wneud penderfyniadau mor anodd fel y rhai fydd yn ein hwynebu ym mis Mawrth flwyddyn nesaf.
“Does dim dewis gennym ond gweithredu oherwydd byddai gwrthod gwneud penderfyniadau yn golygu na fydden ni’n gallu gosod cyllideb ar gyfer y Cyngor ac wedyn yn methu a thalu ein gweithwyr a’r busnesau eraill sydd ynghlwm â gwaith y Cyngor.
“Mi wnawn ein gwaith mor broffesiynol â phosib, ac mi rown o’n gorau dros drigolion yr ardal. Mi barhawn yn uchelgeisiol dros y sir ac mi barhawn yn ein gwaith o geisio creu llwyddiant i’r dyfodol er gwaetha’r toriadau ariannol o Lundain,” meddai’r Cynghorydd Gwenllian.
Cafodd y cynnig yn datgan gwrthwynebiad cyhoeddus i’r toriadau ei roi ger bron gan Y Cynghorydd Siân Gwenllian ar ran Plaid Cymru Gwynedd yng nghyfarfod llawn Cyngor Gwynedd ar y 10 Rhagfyr. Cafwyd cefnogaeth ddiwrthwynebiad gweddill Cynghorwyr Gwynedd.