Mwy o Newyddion
Achos dros dreth pop y Blaid yn “gryfach nac erioed”
Mae Gweinidog Iechyd cysgodol Plaid Cymru wedi croesawu tro pedol Llywodraeth Cymru ar dreth ar ddiodydd llawn siwgr wedi iddynt gefnogi cynigion Plaid Cymru heddiw.
Mae Plaid Cymru ers amser wedi cynnig treth ar ddiodydd llawn siwgr, neu dreth pop – cynnig sydd wedi ennill cefnogaeth nifer o fudiadau ac ymgyrchwyr dros y misoedd diwethaf.
Yn y gorffennol, wfftiodd y llywodraeth Lafur y syniad, ond heddiw fe wnaethant gefnogi cynigion Plaid Cymru.
Mae cyfres o fudiadau ac unigolion amlwg a dylanwadol wedi cefnogi’r syniad o dreth ar ddiodydd llawn siwgr, ynghyd â Public Health England, y Gymdeithas Feddygol Brydeinig, a’r cogydd Jamie Oliver, sydd wedi datgan ei fod o blaid polisi treth pop Plaid Cymru.
Dywedodd Gweinidog Iechyd cysgodol Plaid Cymru Elin Jones “Mae dwy blaid wleidyddol heddiw wedi ymuno â Phlaid Cymru i gefnogi treth ar ddiodydd llawn siwgr. Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru o blaid cynnig Plaid Cymru am dreth pop.
“Mae mwy a mwy o fudiadau ac arbenigwyr wedi galw am dreth ar ddiodydd llawn siwgr, gan gynnwys y cogydd enwog Jamie Oliver sydd wedi cefnogi polisi Plaid Cymru.
“Bwyta gormod o siwgr yw un o’r peryglon mwyaf i iechyd cyhoeddus, ac oni fyddwn yn gweithredu, tyfu wnaiff y bygythiad. Rwy’n falch fod Llywodraeth Cymru heddiw wedi gwneud tro pedol ac wedi cefnogi ein cynigion.
“Dengys ymchwil gan Blaid Cymru y gallai byddai ardoll o 20c y litr ar ddiodydd llawn siwgr yn gallu helpu 20,000 o bobl i golli pwysau a gallai leihau nifer y bobl ordew o 8,300. Gallai hefyd helpu i godi tua £45 miliwn y byddai modd ei ail-fuddsoddi yn ein gwasanaeth iechyd.
“Dengys y twf cynyddol yn y gefnogaeth i’r polisi hwn fod Plaid Cymru ar ochr y farn gyhoeddus pan ydym yn galw am weithredu i herio gor-ddefnyddio siwgr, a chryfhau ein gwasanaethau iechyd.”