Mwy o Newyddion
Parciau Cenedlaethol yn cael eu cosbi’n llym gan Lywodraeth Cymru
Roedd eiriolwyr dros Barciau Cenedlaethol yn Lloegr yn dathlu bythefnos yn ôl pan gyhoeddodd y Canghellor gyllideb unradd ar gyfer Parciau Cenedlaethol ac Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol.
Dywedodd yr Ymgyrch dros y Parciau Cenedlaethol: "Rydym ni wrth ein bodd heddiw [25 Tachwedd] fod y Canghellor George Osborne wedi gwarchod dros £350 miliwn o gyllid ar gyfer Parciau Cenedlaethol, AHNE a choedwigoedd Lloegr yn yr adolygiad o wariant."
Mae’r sefyllfa yng Nghymru heddiw yn hollol wahanol. Ni fydd unrhyw ddathliadau Nadolig i’r sawl sy’n gwerthfawrogi ein Parciau Cenedlaethol. Mae cyllidebau 2016/17 yn cadarnhau’r pryderon gwaethaf, ac mae Parciau Cenedlaethol yn wynebu toriadau gwerth 5.3%, ar ben y toriadau llym sydd wedi dod i’w rhan ystod y ddwy flynedd ddiwethaf.
Dywedodd John Harold, Cyfarwyddwr Cymdeithas Eryri: “Mae Awdurdodau Parciau Cenedlaethol yn cael eu dethol i gael eu cosbi gan doriadau, o’u cymharu ag Awdurdodau Lleol eraill yng Nghymru, sy’n wynebu toriadau o 2% yn fras.
"Mae hyn yn dangos nad yw Llywodraeth Cymru yn deall beth yw diben Parciau Cenedlaethol, na beth maent yn ei wneud i Gymru. Yn waeth na hynny, mae’n ymddangos nad ydyn nhw’n malio.
“Mae Carl Sargeant, Gweinidog Cyfoeth Naturiol Llywodraeth Cymru, yn haeddu anrheg Nadolig – neu, yn lle hynny, mae’n haeddu ymweliad gan Ysbryd y Nadolig Presennol.
"Mae angen iddo wybod na wnaiff Parciau Cenedlaethol, yn union fel Tiny Tim, oroesi bygythiadau deuol Anwybodaeth ac Angen oni bydd yn newid ei ffyrdd.”
Yn Eryri, mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn cyflawni rhagor a rhagor â llai a llai o adnoddau. Yr wythnos hon, er enghraifft, cafodd Eryri ei chydnabod yn 10fed Gwarchodfa Awyr Dywyll y Byd. Bydd y statws hwnnw yn dda i dirwedd a bywyd gwyllt Eryri ac yn wych i’r economi leol. Ond mae’n golygu llawer iawn o waith - yn y gorffennol, y presennol a’r dyfodol - gan Awdurdod y Parc.
Dywedodd John Harold, Cyfarwyddwr yr elusen cadwraeth Cymdeithas Eryri: “Os all llywodraeth sydd â rhaglen sy’n seiliedig ar doriadau ganfod arian i gynnal Parciau Cenedlaethol Lloegr, beth ar wyneb y ddaear yw gêm Llywodraeth Cymru?
"Mae’r craciau ariannol yn cychwyn dod i’r amlwg. Mae Llywodraeth Cymru wedi cael gwerth am arian anhygoel yn gyfnewid am ei grant eleni. Mae angen i Lywodraeth Cymru sylweddoli faint mae Parciau Cenedlaethol yn ei gyflawni yn gyffredinol ym meysydd bioamrywiaeth, iechyd, lles a datblygu’r economi lleol yn gynaliadwy.”
Cafodd gwahaniaeth arall rhwng Cymru a Lloegr ei amlygu gan y cyhoeddiad canlynol gan y Canghellor ynghylch y Gyllideb: “Bydd Parciau Cenedlaethol yn cael hyblygrwydd cyfreithiol i ganiatáu iddynt ddatblygu ffrydiau refeniw cynaliadwy, hir dymor, a hybu twf mewn ardaloedd gwledig.”
Ychwanegodd John Harold: “Rydym ni newydd gael adroddiad y bu disgwyl hir amdano gan Adolygiad Marsden o Dirweddau Dynodedig yng Nghymru – sy’n dadlau dros roi grymoedd o’r fath i Barciau Cenedlaethol yng Nghymru.
"Yn lle hynny, mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu panel arall i anwybyddu ac anghofio’r adroddiad gwych hwn, ac yn y cyfamser, mae’n tanseilio Parciau Cenedlaethol, gan fygwth cael gwared ar bwerau cynllunio ac yn torri cyllidebau.”