Mwy o Newyddion
Bwlch cyfoeth Cymru’n tyfu
Mae cysgod weinidog Plaid Cymru dros yr economi, Rhun ap Iorwerth, wedi ymateb i ystadegau Gwerth Ychwanegol Gros (‘GVA’) a ryddhawyd heddiw sy’n datgelu bod (mesur) cyfoeth Cymru wedi disgyn ymhellach y tu ôl i wledydd ac ardaloedd eraill y DU.
Dywedodd Rhun ap Iorwerth AC, Cysgod Weinidog Plaid Cymru dros yr Economi: “Mae’r ffigyrau a ryddhawyd heddiw gan y Swyddfa Ystadegau Genedlaethol yn dangos nid yn unig mai Cymru sy’n perfformio waetha o ran GYG y pen ond hefyd ein bod wedi cwympo ymhellach i 71.4% o gyfartaledd y DU yn 2014.
"Cynnydd GYG Cymru oedd yr isaf o holl wledydd a rhanbarthau’r DU.
"Dengys hyn na ellir ymddiried naill ai yn Llafur yng Nghymru nac yn y Torïaid ar lefel Prydeinig pan ddaw i’r economi.
"Ryn ni’n dioddef ergyd ddwbl o ddeuben corridor yr M4.
"Yn San Steffan mae gennych chi Lywodraeth Doriaidd sy’n esgeuluso anghenion economi Cymru ac ym Mae Caerdydd mae gweinyddiaeth Lafur ddi-fflach sydd heb yr uchelgais na’r dyfalbarhad i wneud y gorau o’r adnoddau sydd ar gael.
“Mae gan Blaid Cymru gynllun cadarn i weddnewid economi Cymru sy’n cynnwys defnyddio caffael cyhoeddus i greu degau o filoedd o swyddi newydd, yn ogystal â thorri trethi busnes i fusnesau bychain er mwyn sbarduno’r sector economaidd bwysig hon.
“Yn fwy diweddar ryn ni wedi cyhoeddi cynlluniau i greu cronfa o £100 miliwn i’w fuddsoddi yn y cwmnïau newydd hynny sy’n arddangos y potensial i lwyddo - – yn gyfnewid am fuddsoddiad ecwiti yn y cwmnïau hynny gan Lywodraeth Cymru.”