Mwy o Newyddion

RSS Icon
08 Rhagfyr 2015

'Llwybrau Gwell a Mwy Diogel i'r Ysgol' - Adroddiad y Comisiynydd Plant yn anfon neges glir i benderfynwyr yng Nghymru

Mae plant o Gymru benbaladr yn galw am lwybrau gwell a mwy diogel i'r ysgol, ac fe fydden nhw hefyd yn hoffi cael llais mewn penderfyniadau am lwybrau yn eu cymunedau.

Dyma brif ganfyddiadau adroddiad a lansiwyd heddiw gan Gomisiynydd Plant Cymru, Sally Holland, yn Ysgol Gynradd Rhosybol, Ynys Môn.

Mae adroddiad 'Teithio i'r Ysgol' yn seiliedig ar arolwg a gynhaliwyd gyda bron i 1,000 o ddisgyblion ysgol gynradd gan y Comisiynydd a Sustrans Cymru, elusen cludiant cynaliadwy.

Mae'r Comisiynydd wedi galw ar benderfynwyr lleol i ymateb i'r her a gwrando ar blant yn eu cymunedau wrth ddatblygu llwybrau.

Meddai Sally Holland yn Ysgol Gynradd Rhosybol, ar ôl cerdded i'r ysgol gyda rhai o'r disgyblion cyn cynnal trafodaeth ar y canfyddiadau: "Mae manteision teithio llesol yn amlwg. Mae gan blant hawliau o ran teithio i'r ysgol ac yn eu cymunedau, ar droed, ar feic neu ar sgwter.

"Er enghraifft, yr hawl i fod yn ddiogel, i fod yn iach, i gael clust i'w llais, i gwrdd â ffrindiau, i chwarae ac i fynd i'r ysgol."

Roedd yr adroddiad yn amlygu traffig ffordd fel rhwystr cyffredin sy'n atal plant rhag cerdded, beicio neu sgwtio i'r ysgol. Codwyd pryderon eraill hefyd, fel prinder llwybrau addas, gyda llawer o blant yn gwneud sylwadau am ansawdd isel pafinau, llwybrau a llwybrau beic neu, mewn rhai achosion, dim llwybrau addas o gwbl.

Ychwanegodd y Comisiynydd Plant: "Mae'r adroddiad yma yn dangos bod llawer o blant yn defnyddio eu taith i'r ysgol er mwyn cymdeithasu a sgwrsio a chwarae gyda'u ffrindiau a'u teulu.

"Fe siaradon nhw hefyd am y manteision iechyd. Mae rhai pethau yn llai o hwyl wrth gwrs - fel tywydd gwael, ceir cyflym a pharcio diofal.

"Efallai mai'r ystadegyn mwyaf trawiadol yn yr arolwg yw'r un sy'n dangos bod 78% o blant yn credu y dylai fod ganddyn nhw lais o ran cynllunio llwybrau i'r ysgol. Mae ganddyn nhw hefyd syniadau pendant ynghylch sut mae modd gwneud hynny.

"Yr her nawr yw sicrhau bod penderfynwyr lleol yn gwneud i hyn ddigwydd. Yn aml iawn mae plant a phobl ifanc yn llunio syniadau dychmygus ac arloesol sy'n fuddiol i'r gymuned gyfan.

"Fel Comisiynydd Plant, mae gen i ddyletswydd i gyrraedd pob rhan o Gymru, ac rydw i'n ddiolchgar i ddisgyblion Rhosybol am fy ngwahodd i i drafod y mater pwysig yma.

"Mae'r arolwg yma yn dweud yn bendant wrthon ni fod plant yn dymuno bod yn rhan o'r drafodaeth."

Meddai Gwennan Roberts, Pennaeth Ysgol Gynradd Rhosybol: "Mae'n bwysig bod gan blant ddewisiadau diogel o ran dod i'r ysgol. Mae'r anawsterau yn wahanol o ysgol i ysgol wrth gwrs.

"Mewn ardal wledig fel hon, mae plant yn tueddu i deithio cryn bellter, sy'n golygu ei bod hi'n aml yn anodd canfod llwybrau diogel i feicio, er enghraifft.

"Rydan ni'n croesawu unrhyw gefnogaeth i hwyluso hynny."

Meddai Gwen Thomas, Swyddog Beiciwch Hi Ynys Môn Sustrans Cymru: "Mae’r arolwg yma yn dangos yn glir, pe bai’r cyfleoedd a’r cyfleusterau priodol ar gael, buasai plant yng Nghymru yn cymryd yr opsiwn o gerdded, sgwtio neu seiclo i’r ysgol.

"Mi ddywedodd bron i hanner y plant y buasent nhw'n hoffi cael mwy o gymorth yr ysgol er mwyn gwneud y daith mewn modd sydd yn iachach, cynaliadwy a hwyl.

"Mae Sustrans Cymru yn gweithio gyda nifer o ysgolion er mwyn trafod sut mae modd cael y plant yn actif. Rydym yn gwybod, pe bai’r gefnogaeth gywir yna, gallwn wneud gwahaniaeth enfawr i’r daith i’r ysgol"

Mae adroddiad y Comisiynydd Plant yn gysylltiedig â dau faes polisi. Y cyntaf yw'r ffordd y mae llwybrau i'r ysgol yn cael eu hasesu o ran diogelwch gan awdurdodau lleol. Mae hwn yn fater dadleuol mewn sawl rhan o'r wlad.

Yr ail yw gweithredu Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013, sef deddf yn ei gwneud yn haws i bobl deithio'n llesol o gwmpas Cymru. Mae'r ddeddfwriaeth yn ei gwneud yn ofynnol gofyn i'r gymuned beth yw eu barn am y llwybrau presennol a'r cynlluniau ar gyfer datblygu llwybrau'r dyfodol.

Mae disgwyl i blant a phobl ifanc fod yn rhan o'r broses honno.

Ychwanegodd Sally Holland: "Rydyn ni i gyd eisiau sicrhau plant mwy bodlon, mwy iach a mwy diogel.

"Rhaid i bob un ohonon ni wneud yn siŵr bod plant a phobl ifanc yn rhan o'r drafodaeth.

"Rydw i'n credu bod yr adroddiad yma yn ddechrau da, ac rwy'n gobeithio y bydd yn anogaeth i eraill.’ Mae'r adroddiad ar gael o www.complantcymru.org.uk

Llun: Sally Holland

Rhannu |