Mwy o Newyddion

RSS Icon
08 Rhagfyr 2015

Y Gweinidog Addysg: Bydd cofrestru proffesiynol yn gwella safonau addysgu

Mae’r Gweinidog Addysg Huw Lewis wedi disgrifio sut y bydd cofrestru’n broffesiynol y gweithlu addysg yn gwella safonau ac yn codi statws y proffesiwn.

Yn sgil sefydlu Cyngor y Gweithlu Addysg ar 1 Ebrill 2015 roedd gofyn newydd i holl athrawon Addysg Bellach gofrestru’n broffesiynol. O 1 Ebrill 2016 bydd y gofyn i gofrestru’n broffesiynol yn cael ei estyn ymhellach i gynnwys Gweithwyr Cymorth Dysgu o fewn ysgolion ac addysg bellach.

Cynhaliodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad 12 wythnos ym mis Gorffennaf 2014 er mwyn gwahodd sylwadau ynghylch y tri chynnig o ran ffioedd cofrestru. Datblygwyd y tri model ffioedd arfaethedig yn unol â thair egwyddor allweddol sef cynaliadwyedd, cymesuredd ac effeithiolrwydd o ran cost.

Roedd Llywodraeth Cymru wedi cynnig ailddosbarthu’r elfen o gyllid a ddarperir i Awdurdodau Lleol yng Nghymru ar hyn o bryd er mwyn cyfrannu at ffioedd cofrestru athrawon ysgol i Gyngor y Gweithlu Addysg.

Eto i gyd, heb y diwygiadau angenrheidiol i’r Ddogfen Tâl ac Amodau Athrawon Ysgol, sy’n parhau’n faes nad yw wedi’i ddatganoli, caiff hyn ei gyflawni drwy’r ffi y mae athrawon ysgol yn ei thalu, er mwyn gwneud iawn am y cymhorthdal uwch o £33 y byddant yn ei gadw. Bydd hyn yn helpu i dalu costau cofrestru’r gweithlu ehangach.

Dywedodd Huw Lewis: “Mae cofrestru’r gweithlu addysgol ehangach yn newyddion da i rieni, dysgwyr, cyflogwyr a’r cyhoedd.

"Mae’n rhoi sicrwydd fod staff addysgu’n weithwyr addas i’w cofrestru gan eu bod wedi’u hyfforddi’n briodol a chan fod ganddynt y cymwysterau angenrheidiol.

“Mae cofrestru’n codi statws ein holl weithwyr proffesiynol ym maes addysg ac yn cydnabod y ffaith bod ganddynt swyddogaeth allweddol a gwerthfawr o safbwynt cefnogi addysgu a dysgu.

“Bydd ymarferwyr addysg yn elwa ar gefnogaeth a chydnabyddiaeth gan gorff proffesiynol sy’n cynnal safonau proffesiynol ac yn monitro cofrestriad, cymwysterau a datblygiad proffesiynol ei holl aelodau.

“Yn yr un modd â chyrff proffesiynol eraill, bydd ffi ynghlwm wrth gofrestru. Gwnaethom ymgynghori’n helaeth ac yn fanwl ynghylch y mater hwn a chredwn fod lefelau’r ffioedd a nodir yn y model arfaethedig yn cymharu’n ffafriol â ffioedd proffesiynau eraill y mae’r cyhoedd yn dibynnu arnynt.

“Rydym yn benderfynol o godi safonau addysgu a dysgu yng Nghymru. Bydd cofrestru’r gweithlu addysg yn hollbwysig ar gyfer cyflawni hyn a bydd yn helpu i wella ansawdd cyffredinol yr addysg y mae ein pobl ifanc yn ei derbyn.   

Ceir rhagor o wybodaeth am gofrestru proffesiynol, ffioedd cofrestru a’r Fargen Newydd ar gyfer y Gweithlu Addysg yn:  www.dysgu.llyw.cymru

 

Rhannu |