Mwy o Newyddion

RSS Icon
08 Rhagfyr 2015

Pobl yn dal i fod mewn perygl o golli eu golwg yn ddiangen

Mae’r elusen colli golwg mwyaf yng Nghymru, RNIB Cymru, wedi rhybuddio bod pobl yn dal i fod mewn perygl o golli eu golwg yn ddiangen gan na roddir y flaenoriaeth i angen dros dargedau amseroedd aros.

Flwyddyn yn ôl canfu ymchwil RNIB Cymru fod o leiaf bedwar person bob mis yn colli eu golwg yng Nghymru o ganlyniad i apwyntiadau wedi’u gohirio neu eu canslo.

Flwyddyn yn ddiweddarach mae’r rhybudd yn ategu adroddiad RNIB Cleifion go iawn yn dioddef niwed go iawn a ganfu nad oedd system apwyntiadau’r GIG yng Nghymru yn gallu ymdopi â’r galw.

Mae’r boblogaeth sy’n heneiddio, triniaethau newydd a chynnydd mewn rhai o achosion sylfaenol colli golwg, megis diabetes a gordewdra, wedi achosi cynnydd yn y galw am wasanaethau offthalmoleg.

Mae targedau Amseroedd Aros rhwng Atgyfeirio a Thriniaeth (“RTT”) yn golygu bod yr apwyntiad cyntaf yn cael y flaenoriaeth.

O ganlyniad felly, mae’n rhaid i gleifion sydd angen apwyntiadau neu driniaethau dilynol aros am fwy o amser o lawer na’r disgwyl yn aml.

Yn ystod y cyfnod hwnnw gallant golli eu golwg ac ni fydd yn bosibl ei adfer.

Dywedodd Ceri Jackson, Cyfarwyddwr RNIB Cymru: “Ym mis Mawrth eleni, dywedodd y Prif Weinidog ei fod yn ‘annerbyniol’ os oedd unrhyw un wedi colli ei olwg o ganlyniad i amseroedd aros.

“Mae’n glir bod y Bwrdd Gofal wedi’i Gynllunio newydd yn llywio newid ond rwy’n dal i bryderu na wnaed digon o gynnydd.

“Mae cleifion yn parhau i ddweud wrthym eu bod yn poeni y byddant yn colli eu golwg am fod eu hapwyntiadau wedi’ cael eu gohirio neu eu canslo.

“Y gwir amdani yw bod pobl yn dal i golli eu golwg yn ddiangen.

“Yn rhy aml yn RNIB rydym yn clywed gan gleifion sy’n defnyddio’r system ac yn teimlo effaith yr oedi wrth aros am eu triniaeth.

“Mae nifer yr apwyntiadau a gafodd eu gohirio a’u canslo yn rhy uchel ac nid oes gennym unrhyw ffordd o wybod yn union faint o bobl sydd wedi dioddef o ganlyniad i hyn - ac sy’n dal i wynebu risg.

“Mae angen i gleifion wybod beth yw’r risgiau i’w golwg os caiff eu hapwyntiadau eu gohirio neu’u canslo - ac fel arfer, nid yw hynny’n digwydd.”

Llun: Ceri Jackson

Rhannu |