Mwy o Newyddion
Saga Norén, ditectif ar gyfres The Bridge yn cyfeirio at waith academydd o Brifysgol Aberystwyth
Llyfr gan seicolegydd o Brifysgol Aberystwyth Dr Nigel Holt yw dewis lyfr y ditectif a seren y gyfres Nordic Noir The Bridge, sy’n cael ei dangos ar BBC4 ar hyn o bryd.
Ym Mhennod 6, a ddarlledwyd ar nos Sadwrn 5 Rhagfyr, pan ofynnwyd i Norén beth oedd yn ei ddarllen, atebodd, “Psychology – The Science of the Mind & Behaviour gan Nigel Holt”.
Bellach ar ei drydydd argraffiad, mae’r llyfr a gyhoeddwyd gan McGraw Hill, yn werslyfr rhagarweiniol ar seicoleg sy’n cael ei ddefnyddio’n helaeth ar gyrsiau cyfrwng Saesneg mewn sawl rhan o Ewrop a De Affrica, ac yn eang ei ddefnydd yn Sgandinafia.
Awduron y gyfrol yw Holt (Aberystwyth), Andrew Bremner (Goldsmiths) Ed Sutherland (Leeds) a Michael Vliek (Amsterdam).
Mae Holt yn Bennaeth yr Adran Seicoleg ym Mhrifysgol Aberystwyth. Wedi iddo astudio am ei PhD ym Mhrifysgol Efrog, bu'n gweithio mewn diwydiant cyn dychwelyd i'r byd academaidd fel cymrawd ymchwil mewn seicoleg glywol ym Mhrifysgol Reading. Ymunodd ag Aberystwyth yn 2012.
Ei brif ddiddordeb ymchwil yw'r berthynas rhwng sain a gwahanol agweddau ar wybyddiaeth cynnwys cof, sylw a pherfformiad. Mae ei ymchwil diweddar hefyd yn canolbwyntio ar y canfyddiad o amser, a seicoleg beicio a chludiant.
Mewn ymateb i weld ei enw ar y sgrin, dywedodd Holt: "Hon yw un o fy hoff sioeau teledu, felly gallwch ddychmygu fy syndod pan gyfeiriodd Saga at fy llyfr yn y fath fodd.
"Nid yw gwerslyfrau yn cael eu hystyried yn drywydd academaidd gwerth chweil gan rai, ond rwy’ wedi ysgrifennu a golygu llyfrau TGAU, Safon Uwch ac i Israddedigion, ac mae rhai yn cael eu defnyddio gan bobl broffesiynol, felly rwy’n anghytuno gyda’r safbwynt hwn.
"Dyma un o elfennau pwysicaf pedagogeg, ac mae'n ganolog i'r hyn rwyf i, fy nghyd-awduron a fy nghydweithwyr yma yn Aberystwyth yn ei wneud ", ychwanegodd.
Llun: Nigel Holt