Mwy o Newyddion
Dan Biggar a phêl-droed Cymru'n disgleirio yng Ngwobrau Chwaraeon Cymru
Mae seren rygbi Cymru a’r Gweilch, Dan Biggar, wedi cael ei enwi fel Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru 2015 yng Ngwobrau Chwaraeon Cymru neithiwr. Mae Biggar wedi disgleirio yng Nghwpan Rygbi'r Byd ac ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad dros Gymru ac wedi cael tymor gwych arall gyda’r Gweilch. Cafodd y wobr ei chyflwyno iddo gan Nigel Owens yn seremoni Gwobrau Chwaraeon Cymru yng Nghaerdydd nos Lun.
Ac ar ôl blwyddyn anhygoel i bêl-droed Cymru, cipiodd Tîm Pêl-droed Dynion Hŷn Cymru’r wobr am Dîm y Flwyddyn ar ôl sicrhau lle yn rowndiau terfynol Pencampwriaethau Ewrop UEFA yn Ffrainc yr haf nesaf, a hyfforddwr Cymru Chris Coleman, enillodd wobr Hyfforddwr y Flwyddyn.
Daeth Dan Biggar i'r brig yng ngwobr Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru, Geraint Thomas ddaeth yn ail a Lee Selby yn drydydd.
Roedd Chwaraeon Cymru a BBC Cymru wedi dod at ei gilydd unwaith eto i gynnal digwyddiad dathlu chwaraeon blynyddol mwyaf y wlad. Cynhaliwyd Gwobrau Chwaraeon Cymru yng Nghanolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru yng Nghaerdydd.
Cafodd eraill eu gwobrwyo am lwyddo’n arbennig ym maes chwaraeon yng Nghymru hefyd:
Yr enillwyr oedd:
• Tîm y Flwyddyn – Tîm Pêl-droed Dynion Hŷn Cymru
• Gwobr Cyflawniad Oes (Elite) – Syr Gareth Edwards (Rygbi’r Undeb)
• Gwobr Cyflawniad Oes (Cymunedol) – Dorothy Neyland (Gymnasteg, Abertawe)
• Gwirfoddolwr y Flwyddyn – Wendy Pressdee (Pêl-rwyd, Abertawe)
• Gwirfoddolwr Ifanc y Flwyddyn – Elan Môn Gilford (Aml-gamp, Ynys Môn)
• Hyfforddwr Ifanc y Flwyddyn – Lowri Hâf Barker (Pêl-rwyd, Sir y Fflint)
• Chwaraewr Iau y Flwyddyn Carwyn James – Matt Story (Tenis, Caerdydd)
• Chwaraewraig Iau y Flwyddyn Carwyn James – Hannah Brier (Athletau, Abertawe)
• Hyfforddwr Pobl Anabl – John Wilson (Bowls ar gyfer pobl sydd â nam ar eu golwg, Abertawe)
• Arwr Tawel – Jane Roberts a Nerys Ellis (Clwb Nofio Llanrwst, Conwy)
• Hyfforddwr Cymunedol y Flwyddyn – Angeline Tshiyane (Aml-gamp, Casnewydd)
Cafodd y dyfarnwr Nigel Owens lwyddiant hefyd, gyda chydnabyddiaeth arbennig i ddathlu cael ei benodi’n ddyfarnwr ar gyfer rownd derfynol Cwpan Rygbi’r Byd 2015.
Syr Gareth Edwards, un o arwyr Rygbi'r Undeb, enillodd wobr Cyflawniad Oes (Elite). Gellir dadlau mai ef yw’r chwaraewr rygbi undeb gorau erioed. Enillodd 53 cap dros Gymru ac enillodd 10 cap dros Lewod Prydain.
Un o hoelion wyth gymnasteg yn Abertawe, Dorothy Neyland, enillodd wobr Cyflawniad Oes (Cymunedol). Dechreuodd grŵp gymnasteg bychan yn 1972 er mwyn i’w phlant allu cymryd rhan, a 40 mlynedd yn ddiweddarach, mae’n glwb llwyddiannus lle mae cannoedd o bobl ifanc yn hyfforddi bob wythnos.
Wendy Pressdee, sy’n ymwneud ag ochr weinyddol pêl-rwyd, enillodd wobr Gwirfoddolwr y Flwyddyn am waith sy’n cynnwys rhoi dros 30 awr i gynnal cynghreiriau yn Abertawe, ac Elan Môn Gilford o Ynys Môn enillodd wobr Gwirfoddolwr Ifanc y Flwyddyn.
Hyfforddwr Clwb Pêl-droed yr Wyddgrug, Lowri Hâf Barker enillodd wobr Hyfforddwr Ifanc y Flwyddyn ar ôl ymgymryd â’r rôl pan oedd yn 16 oed ar ôl i hyfforddwr y clwb gael diagnosis o ganser.
Aeth gwobr Chwaraewr y Flwyddyn Carwyn James i'r chwaraewr tennis addawol Matt Story o Gaerdydd a Hannah Brier o Abertawe enillodd wobr Chwaraewraig y Flwyddyn Carwyn James.
John Wilson, sydd wedi sefydlu clybiau newydd ar gyfer bowlwyr sydd â nam ar eu golwg, enillodd wobr Hyfforddwr Pobl Anabl.
Mae’r ffermwyr, Jane Roberts a Nerys Ellis o Glwb Nofio Llanrwst yng Nghonwy wedi bod yn gwirfoddoli fel hyfforddwyr yn y clwb arm 30 o flynyddoedd – ac maent wedi ennill gwobrArwr Tawel BBC Cymru Wales Get Inspired oherwydd hynny. Byddant yn cynrychioli Cymru yn rownd derfynol y DU, a bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi yn ystod gwobrau Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn y BBC ar BBC One Wales, dydd Sul, 20 Rhagfyr.
Angeline Tshiyane, sydd wedi bod yn hyrwyddo chwaraeon yng nghymunedau du a lleiafrifoedd ethnig Casnewydd, enillodd wobr Hyfforddwr Cymunedol y Flwyddyn.
Dywedodd Cadeirydd Chwaraeon Cymru, yr Athro Laura McAllister: “Mae hi wedi bod yn flwyddyn arall o lwyddiannau i’w dathlu ac mae Gwobrau Chwaraeon Cymru eto wedi ennyn yr ysbrydoliaeth ac aberthon bob dydd sy’n gwneud chwaraeon yng Nghymru mor afaelgar.
“Mae chwaraeon llawr gwlad ac elite yn tynnu sylw at Gymru, gyda’n sêr chwaraeon yn ei n rhoi ni ar fap y byd ac yn annog mwy o bobl nag erioed i gymryd rhan yn ein cymunedau.
“Mae llwyddiannau chwaraeon yng Nghymru yn rhywbeth mae’r genedl yn ymfalchio ynddo. Mae’n bwysig i ni fanteisio i’r eithaf ar yr ymdeimlad positif yma fel bod cenedlaethau o bobl yng Nghymru yn parhau i fwynhau’r un llwyddiant yn y dyfodol.”
Dywedodd Rhodri Talfan Davies, Cyfarwyddwr BBC Cymru: "Unwaith eto mae 2015 wedi bod yn flwyddyn eithriadol ym maes chwaraeon yng Nghymru , ac mae hi wir yn wefr i arddangos y talent a’r safon anferthol sydd ar draws chwaraeon Cymru. Mae'r rhain yn straeon dynol anghyffredin , nid yn unig ymhlith y dynion a merched sydd ymhlith y gorau yn y byd , ond hefyd ar draws y rhwydwaith o bobl ysbrydoledig sy'n gwneud i chwaraeon ddigwydd - o weinyddwyr a swyddogion i hyfforddwyr a gwirfoddolwyr . Mae hon yn noson i ddweud diolch ac i’w dathlu nhw bob un."
Bydd y seremoni i’w gweld yn llawn ar wasanaeth Botwm Coch y BBC am 4.30pm a 11.20pm ar ddydd Mawrth, 8 Rhagfyr. Bydd y seremoni ar gael i'w gwylio BBC iPlayer am 30 diwrnod.