Mwy o Newyddion
Lansio cynllun i fynd i'r afael â bygythiad ymwrthedd gwrthfiotig
Mae Mark Drakeford, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, wedi lansio cynllun newydd i fynd i'r afael ag Ymwrthedd Gwrthficrobaidd, un o'r bygythiadau iechyd mwyaf sy'n wynebu'r wlad.
Mae'r cynllun yn darparu glasbrint ar gyfer camau gweithredu penodol, cydlynol ar lefel genedlaethol a lleol gan atgyfnerthu'r angen i weithio gyda'n gilydd. Mae'r ymgynghoriad cyhoeddus yn rhoi cyfle i gleifion, y cyhoedd, ac unigolion a chyrff eraill i fynegi eu barn ynghylch y blaenoriaethau ar gyfer Cymru wrth fynd i'r afael ag ymwrthedd.
Mae pwyntiau allweddol y cynllun yn cynnwys:
* Bydd Byrddau Iechyd yn datblygu cynlluniau i wella’r broses o atal heintiau er mwyn cael gwared ar heintiau y gellir eu hosgoi sy'n gysylltiedig â gofal iechyd mewn ysbytai, cartrefi nyrsio ac amgylcheddau iechyd a gofal cymdeithasol eraill
* Bydd byrddau iechyd yn rhagnodi llai o wrthfiotigau amhriodol ac yn cefnogi Timau Rhagnodi Gwrthficrobaidd i hyrwyddo defnydd doeth o wrthfiotigau
* Bydd Llywodraeth Cymru, drwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, yn blaenoriaethu ymchwil i ymwrthedd gwrthficrobaidd
* Bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru’n gwella prosesau gwyliadwriaeth data ymwrthedd gwrthficrobaidd ac yn datblygu system rybuddio ar gyfer adnabod organebau ymwrthol mewn amser real
Yng Nghymru, mae defnydd gwrthficrobaidd ac ymwrthedd wedi bod yn cynyddu o flwyddyn i flwyddyn mewn ysbytai yn unol â'r patrwm byd-eang. Fodd bynnag, yn y ddwy flynedd ddiwethaf, bu gostyngiad bychan ym maes gofal sylfaenol.
Meddai Mark Drakeford: “Mae ymwrthedd gwrthfiotig – sef pan fydd bacteria’n addasu fel bod gwrthfiotigau’n methu - yn digwydd yn awr dros y byd i gyd. Heb gamau brys rydyn ni’n anelu at oes ôl-wrthfiotigau, lle gall heintiau cyffredin a mân anafiadau ladd unwaith eto.
“Gwyddom fod llawer o heintiau cyffredin sy'n bygwth bywyd, megis E.coli bacteremia - yr organeb fwyaf cyffredin a geir mewn profion gwaed yn y DU - yn dod yn anodd neu hyd yn oed yn amhosibl i'w trin. Mae'n rhaid i ni weithredu nawr.
"Byddai effeithiolrwydd gweithdrefnau megis trawsblannu organau neu gemotherapi mewn cryn berygl pe na bai gwrthfiotigau effeithiol ar gael. Mae'r bygythiad yn glir – mae ymwrthedd gwrthficrobaidd yn cael ei gydnabod gan Lywodraeth y DU yn ei Chofrestr Risg Genedlaethol o Argyfyngau Sifil."
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cefnogi Llywodraeth Cymru gyda’r gwaith o hyrwyddo’r ymgynghoriad yn sefydliadau’r GIG.
Meddai Dr Marion Lyons, Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd: “Mae Ymwrthedd Gwrthficrobaidd (YGF) yn fygythiad cynyddol a byd-eang i iechyd. Mae'r Cynllun Cyflenwi a ddatblygwyd gan Lywodraeth Cymru yn ddarn pwysig o waith sy’n disgrifio sut y gall sefydliadau iechyd a gweithwyr proffesiynol yng Nghymru gyfrannu at y strategaeth ryngwladol i leihau YGF.
“Mae'n hanfodol ein bod yn gweithio gyda'n gilydd drwy gefnogi a chyflwyno cynllun canolog. Dyma gyfle i sefydliadau GIG Cymru gyfrannu at y cynllun yn ogystal â hyrwyddo'r cyfle i randdeiliaid eraill gan ddefnyddio’n Pecyn Cyfathrebu.”
Ychwanegodd yr Athro Drakeford: “Mae gan bawb gyfrifoldeb yn hyn o beth. Mae gan weithwyr proffesiynol meddygol gyfrifoldeb i beidio â rhagnodi’n amhriodol, ac mae gennym ni oll gyfrifoldeb i ddeall nad gwrthfiotigau yw'r ymateb priodol i salwch bob amser - mae'n rhaid i ni eu defnyddio’n ddoeth.”