Mwy o Newyddion

RSS Icon
07 Rhagfyr 2015

Plaid Cymru - Llafur a'r Ceidwadwyr yn camarwain i guddio eu methiant ar HS2

Mae Llefarydd Plaid Cymru ar y Trysorlys, Jonathan Edwards AS, wedi ymateb i honiadau Llafur a'r Ceidwadwyr dros gyllid HS2 i Gymru gan gyhuddo'r ddwy blaid o gamarwain i guddio eu methiant ar y mater.

Ers blynyddoedd, mae Mr Edwards a Phlaid Cymru wedi ymgyrchu i Gymru dderbyn cyfran deg o'r gwariant ar y prosiect rheilffordd a fydd yn cael ei adeiladu yn gyfan-gwbl yn Lloegr gan anfanteisio'r economi Gymreig.

Tra bod disgwyl i Gymru dderbyn ol-daliad yn sgil cynnydd yng nghyllideb gyfan yr Adran dros Drafnidiaeth, mae Datganiad Polisi Cyllido llywodraeth y DG - dogfen sy'n dangos pa gyfran o wariant fydd pob llywodraeth ddatganoledig yn ei dderbyn - yn nodi'n glir y bydd ôl-daliad uniongyrchol Cymru yn sgil HS2 yn 0%.

Ar yr un pryd, mae'r un ffigwr ar gyfer Yr Alban a Gogledd Iwerddon yn 100% o ôl-daliad Barnett.

Mae Mr Edwards yn dadlau nad oes unrhyw rheswm pam y dylai Cymru gael ei thrin fel cenedl eilradd ac y byddai oôl-daliad Barnett llawn yn sgil HS2 yn golygu miliynau yn fwy i fuddsoddi yn ffyrdd a rheilffyrdd Cymru.

Dywedodd Jonathan Edwards AS, llefarydd Plaid Cymru ar y Trysorlys: "Mae Llywodraeth Lafur Cymru a Llywodraeth Geidwadol San Steffan yn troi at dactegau o gamarwain mewn ymgais i guddio eu methiant i sicrhau bargen deg i Gymru.

"Y corff sy'n gyfrifol am ddelifro HS2 yw HS2 Limited, nid Network Rail. Yn wahanol i Network Rail, nid yw HS2 Limited wedi ei ddatganoli i'r Alban a Gogledd Iwerddon.

"Felly, y cwestiwn yw, fel y gofynais i'r Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth yn y Tŷ Cyffredin wythnos diwethaf, pam nad yw Cymru'n cael ei thrin yn gyfartal gyda'r Alban a Gogledd Iwerddon?

"Mae'r Datganiad Polisi Cyllido yn nodi'n glir fod Yr Alban a Gogledd Iwerddon yn derbyn ol-daliad Barnett 100% yn sgil HS2 tra bod Cymru'n derbyn 0%. Mae hyn yn effeithio ar y canran adrannol cyfan a ddefnyddir i gyfrifo faint o ôl-daliad Barnett fydd pob llywodraeth ddatganoledig yn ei dderbyn.

"Mae Llywodraeth Cymru yn iawn i honni ein bod yn derbyn ychydig o arian yn sgil HS2, ond mewn gwirionedd mae'r 0% ar gyfer HS2 yn gadael Cymru dan anfantais sylweddol yn y cyfrifo terfynol.

"Ein pwynt ni o'r cychwyn yw y dylid clust-nodi HS2 yn brosiect Lloegr-yn-unig, nid prosiect Lloegr-a-Chymru fel y mae'r Trysorlys wedi ei wneud ar gyfer y Datganiad Polisi Cyllido.

"Mae Llywodraeth Lafur Cymru a Swyddfa Cymru dan y Ceidwadwyr yn fodlon gyda'r sefyllfa hon ble y bydd Cymru yn colli miliynau o bunnoedd. Mae Plaid Cymru yn gwrthod bodloni ar hyn."
 

Rhannu |