Mwy o Newyddion
Galw am gamerâu gorfodol mewn lladd-dai drwy'r DU
Mae AS Plaid Cymru dros Ddwyfor Meirionnydd Liz Saville Roberts yn galw ar Lywodraeth y DU i gyflwyno camerâu teledu cylch cyfyng gorfodol tu mewn i bob lladd-dŷ yn y DU er mwyn rhoi terfyn ar achosion o dorri rheoliadau lles anifeiliaid, wrth i bôl piniwn YouGov ddangos bod 76% o'r cyhoedd eisiau monitro tynnach o arferion lladd-dai.
Mae Liz Saville Roberts AS hefyd wedi cefnogi cynnig trawsbleidiol yn y Senedd yn galw ar y Llywodraeth i weithredu argymhellion adroddiad Pwyllgor Lles Anifeiliaid Fferm 2015 ynghylch y defnydd o deledu cylch cyfyng mewn lladd-dai.
Mae ymgyrch a lansiwyd gan sefydliad Cymorth Anifeiliaid wedi derbyn cefnogaeth wleidyddol a chyhoeddus eang yn dilyn pum mlynedd o ymchwilio i achsion o dorri rheoliadau lles anifeiliaid mewn lladd-dai ar draws Prydain. Darganfu y sefydliad fod naw allan o ddeg o ladd-dai yn torri rheolau pan roddwyd camerau cudd tu mewn i’r adeiladau.
Dywedodd Liz Saville Roberts AS: “Mae yna angen am system reoleiddio llawer mwy cadarn i adnabod toriadau mewn rheoliadau lles anifeiliaid mewn lladd-dai. O’u defnyddio yn iawn, gall teledu cylch cyfyng, chwarae rhan bwysig o ran canfod ac atal achosion o dorri rheolau lles.
"Byddai camerâu teledu cylch cyfyng mewn lladd-dai yn y DU yn gam ymarferol i wella lles anifeiliaid ac i erlyn y rhai sy'n torri'r gyfraith.
"Byddai CCTV hefyd yn diogelu gweithwyr lladd-dai rhag cyhuddiadau ffug o greulondeb, ac yn helpu i atal sgandalau megis cam-labelu cig ceffyl rhag digwydd eto.
"Mae gormod o anifeiliaid yn dioddef o dan y system bresennol ac yn parhau i fod yn agored i greulondeb a cham-drin. Mae'n amser i’r Llywodraeth weithredu a gwrando ar alwadau a wneir gan Aelodau Seneddol a'r cyhoedd.”