Mwy o Newyddion
Croesawu uned arennol arloesol Ysbyty Gwynedd
Mae Aelod Seneddol Arfon, Hywel Williams wedi croesawu ddatblygiadau arloesol i Uned Arennau Ysbyty Gwynedd yn dilyn ymweliad yr wythnos ddiwethaf.
Cyfarfu Hywel Williams AS gyda Dr Mahdi Jibani MBE, arbenigwyr arennau ymgynghorol Ysbyty Gwynedd a Ken Jones o Gymdeithas Cleifion Arennau Gwynedd, sydd ei hun wedi derbyn dau drawsblaniad arennau.
Dywedodd Hywel Williams AS: "Mae cyfleusterau arennol newydd Ysbyty Gwynedd ymysg y rhai gorau yn y DU, ond nid ydynt yn derbyn y cydnabyddiaeth y maent yn ei haeddu. Roeddwn yn falch iawn o gael taith o amgylch yr uned a siarad gyda’r rhai sydd ar y rheng flaen gofal arennol yng Ngogledd Orllewin Cymru.
"Mae'r datblygiad hwn yn brawf o ymroddiad a gweledigaeth pawb sy'n ymwneud â darparu gofal ar gyfer cleifion arennol yn Ysbyty Gwynedd a ledled Gwynedd, yn enwedig Dr Mahdi Jibani & Ken Jones sydd wedi rhoi oes o waith i drin a chefnogi cleifion arennol ar draws Gogledd Cymru ers dros ddeng mlynedd ar hugain.
"Mae'r uned yn ymfalchïo yn y dechnoleg ddiweddaraf gyda amgylchedd gyfoes ac eang, a timau ymroddedig i gefnogi cleifion arennol trwy gydol eu cylch triniaeth. Bydd y ward arbenigol yn gaffaeliad mawr i'n cymuned, gan ddarparu ansawdd gwych o ofal.
"Bydd cleifion bellach yn elwa o beiriannau dialysis ychwanegol a gwasanaeth newydd arloesol sy'n galluogi cleifion dialysis i hunan-weinyddu eu triniaeth yn y cartref, gyda chymorth sesiynau tiwtorial Skype o'r uned. Mae hwn yn ddull arloesol o drin cyflyrau arennol a bydd yn newid bywydau cleifion sy'n galluogi i’r rhai hynny sy'n byw filltiroedd i ffwrdd o'r ysbyty i dderbyn triniaeth reolaidd yn y cartref."
Llun: Hywel Williams AS gyda Dr Mahdi Jibani a Ken Jones yn Uned Arennol newydd Ysbyty Gwynedd.