Mwy o Newyddion

RSS Icon
03 Rhagfyr 2015

Cyngerdd carolau Nadolig blynyddol yn cael ei gynnal yn y Senedd

Bydd y Fonesig Rosemary Butler AC, y Llywydd, yn cynnal cyngerdd carolau blynyddol yn y Senedd i ddathlu tymor y Nadolig.

Bydd y cyngerdd carolau yn digwydd yn y Neuadd am 12.00 o’r gloch ddydd Mawrth, 8 Rhagfyr.

Bydd yn cynnwys perfformiadau gan yr elusen "Cerddoriaeth mewn Ysbytai" a myfyrwyr o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Caerdydd gyda’r Grŵp Jazz Amser, a hefyd ceir carolau Nadolig traddodiadol a fydd yn cael eu canu gan y gwesteion ac Aelodau’r Cynulliad a staff.

Dywedodd y Fonesig Rosemary: "Wrth i Aelodau’r Cynulliad a staff ddod ynghyd i ddathlu cyfnod y Nadolig yn y Senedd, mae’n braf gwneud hynny gyda cherddorion sy’n arddangos y doniau sydd gennym yng Nghymru.

"Rwy’n sicr y bydd y cyngerdd carolau yn ffordd gofiadwy i ddathlu tymor y Nadolig."

Bydd arweinwyr y pleidiau hefyd yn darllen darnau o farddoniaeth a darnau o’r Beibl yn  ddwyieithog yn y cyngerdd.

Bydd y Parch Peter Noble, Caplan y Bae, yn rhoi gweddi fer cyn diwedd y cyngerdd.

Rhannu |