Mwy o Newyddion
Teithiwr Gwyddelig yn taclo troseddau casineb llechwraidd
Mae aelod o’r gymuned deithio Wyddelig a ddioddefodd flynyddoedd o gamdriniaeth filain wedi cael swydd newydd yn helpu dioddefwyr troseddau casineb.
Credai Martin Gallagher y bydd ei brofiadau ef ei hun yn rhoi mewnwelediad unigryw iddo pan fydd yn ceisio helpu eraill sydd wedi dioddef enllib ac anffafriaeth creulon.
Mae’r dyn 29 mlwydd oed wedi cael ei benodi’n Weithiwr Achos Troseddau Casineb Gogledd Cymru a bydd wedi’i leoli yn y Ganolfan Cymorth Dioddefwyr sydd newydd agor yn Llanelwy.
Cafodd y ganolfan ei sefydlu gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru Winston Roddick CB QC a’i nod ydi darparu gwasanaeth estyn allan i ddioddefwyr ar draws Gogledd Cymru.
Mae’n siop un stop ar gyfer dioddefwyr ac mae’n gydweithrediad rhwng gwasanaethau cefnogi Heddlu Gogledd Cymru, Gwasanaeth Erlyn y Goron (GEG) a’r hen sefydliad Cymorth i Ddioddefwyr.
Bydd Martin yn rhoi cefnogaeth ac arweiniad i bobl sydd wedi cael eu cam-drin oherwydd eu cyfeiriadedd rhywiol, hil, anabledd, oed neu gyfres o nodweddion personol eraill.
Er bod ffigyrau troseddau casineb yn eithaf isel yng Ngogledd Cymru gyda llai na 400 yn cael eu riportio mewn blwyddyn, mae’r effaith ar ddioddefwyr yn aml iawn yn enfawr a gall ddinistrio ansawdd bywyd y dioddefwyr.
Meddai Martin, sy’n dilyn gradd mewn gwaith ieuenctid a chymuned ym Mhrifysgol Glyndŵr: “Efallai fy mod wedi dewis byw mewn tŷ ond rwy’n dal i fod yn aelod o’r gymuned deithio Wyddelig. Dyma yw fy nhreftadaeth a dyma o le rwy’n dod.
“Nid oes gennyf acen Wyddelig, er bod gan lawer iawn o fy nheulu, ond rwyf dal yn dioddef anffafriaeth creulon ac annheg ac rwy’n ymwybodol o’r effaith y gall hyn ei gael ar unigolion.
“Yn y gorffennol nid oedd gennyf y pŵer i weithredu ac nid oeddwn yn gwybod sut i herio a riportio anffafriaeth.
“Cefais fy ngeni yn Deithiwr Gwyddelig, dyna ydi fy ethnigrwydd. Cefais fy ngeni yn Llundain ond mi wnes fyw am ychydig o flynyddoedd ar safle teithwyr Paddy Doherty yn Queensferry, Sir y Fflint.
“Mi ddechreuais astudio peirianneg yn y coleg a dychmygwch sut oeddwn yn teimlo pan ddywedodd darlithydd un diwrnod na ddylem adael copr o gwmpas y lle gan y byddai’r ‘Pikeys’ o Queensferry yn ei ddwyn.
“Mae’r term Pikey yn derm bychanus a ddefnyddir gan rai i ddisgrifio dynion tyrpeg o flynyddoedd yn ôl a ddaeth i fod yn niwsans. I mi mae clywed rhywun yn cael ei alw’n Pikey yn eithriadol o sarhaus.
“Rwyf i fy hun wedi cael fy nadu rhag mynd i mewn i dafarn pan roeddwn gyda grŵp o deithwyr Gwyddelig yn dathlu bedydd merch farch.”
Mae Martin, sydd yn briod â Chloe ac sydd yn dad i fab bychan, Noah, a anwyd ym mis Awst, eisiau bod ar gael i unrhyw un sydd wedi dioddef trosedd casineb neu anffafriaeth yng Ngogledd Cymru.
Meddai: “Does dim ots i ba grŵp yr ydych yn perthyn iddo. Gall pobl fod yn hoyw, lesbiaid, deurywiol neu drawsrywiol, o wahanol hil, crefydd, oed neu anabledd does dim ots - mae troseddau casineb yn ddrwg ac mae angen i ni wneud rhywbeth am hyn.
“Credaf mai addysg yw’r ateb ac rwy’n bwriadu ymweld ag ysgolion, colegau, busnesau ac unrhyw le arall lle gallaf ledaenu fy neges. Byddaf yma i helpu unrhyw un sydd wedi dioddef trosedd casineb yng Ngogledd Cymru."
Mi wnaeth Dirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru Julian Sandham longyfarch Martin ar ei swydd newydd ac fe ddywedodd: “Mae ots gennym ni am ddioddefwyr trosedd yng Ngogledd Cymru ac rydym eisiau cefnogi dioddefwyr pob math o droseddau.
“Mae yna nifer o wahanol fathau o droseddau ond mae’n bwysig ein bod yn gofalu am, ac yn trin pob dioddefwr gyda pharch ac urddas. Efallai nad yw trosedd casineb bob tro i’w weld yn rhywbeth ofnadwy os nad ydyw’n ein heffeithio ni yn uniongyrchol ond mae angen i ni feddwl am yr effaith y gall gael ar unigolion a hyd yn oed cymunedau cyfan.
“Dim ond oherwydd bod gan rywun nodwedd penodol y gellir ei gysylltu neu ei berthnasu â grŵp penodol o bobl nid yw’n golygu ei fod yn rhywbeth y dylid ei danlinellu neu ei fychanu.
“Mae troseddau casineb ac anffafriaeth yn cael effaith aruthrol ar bobl ac mae’n rhaid i ni ddangos na fyddwn ni yng Ngogledd Cymru yn sefyll yn ôl ac yn ei anwybyddu.”
Fe ychwanegodd Mr Sandham: “Wrth sefydlu’r Ganolfan Cymorth Dioddefwyr yn Llanelwy mi wnaethom greu’r swydd Gweithiwr Achos Troseddau Casineb. Mae’r swydd hon wedi cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru ar ffurf grant i Gymorth i Ddioddefwyr.”
Meddai Gareth Cuerden, Rheolwr Troseddau Casineb Cymru Gyfan Cymorth i Ddioddefwyr: “Yn y gorffennol mae Martin wedi gweithio llawer iawn gyda phlant a phobl ifanc a bydd ei brofiad o weithio gyda phobl ifanc o gymorth iddo. Rwy’n sicr y bydd Martin yn llwyddiant ysgubol.
“Byddwn yn annog dioddefwyr i riportio unrhyw fath o drosedd casineb i’r Heddlu gan wybod y byddant yn cael eu cefnogi.”
Os hoffech wybod mwy am Ganolfan Cymorth Dioddefwyr Gogledd Cymru ewch i http://www.victimhelpcentrenorthwales.org.uk/ neu ffoniwch 0300 303 0159.
Llun: Dirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru Julian Sandham gyda Martin Gallagher