Mwy o Newyddion

RSS Icon
03 Rhagfyr 2015

Datgelu’r dyluniad ar gyfer Canolfan S4C Yr Egin

MAE Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi datgelu delweddau o adeilad Canolfan S4C Yr Egin mewn digwyddiad ar gyfer unigolion a chwmnïau o’r Diwydiannau Creadigol.

Mae Canolfan S4C Yr Egin yn ddatblygiad a fydd yn gartref i gymuned ddiwylliannol fyrlymus - cyfnewidfa amlddisgyblaethol, entrepreneuraidd a chreadigol a fydd wedi’i lleoli yng Nghaerfyrddin. Bydd yn gartref i oddeutu 25 o gwmnïau a sefydliadau cysylltiedig, ac yn ganolfan lle gall pobl, cysylltiadau, syniadau a doniau sbarduno’i gilydd. Y bwriad yw y bydd y Ganolfan yn agor yn gynnar yn 2018.

Meddai Gwilym Dyfri Jones, Pro Is-Ganghellor Cysylltiol Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a’r person sy’n arwain y prosiect ar ran y Brifysgol: “Dyma garreg filltir bwysig yn natblygiad prosiect Canolfan S4C Yr Egin.

"Rydym wedi bod yn gweithio’n dawel ac yn ddiwyd dros y misoedd diwethaf, yn mireinio’r cysyniad ac yn rhannu’n gweledigaeth, felly mae’n rhoi pleser mawr i’r Brifysgol fedru rhannu ffrwyth y llafur hwnnw gyda chynrychiolaeth deilwng o’r diwydiannau creadigol heddiw.

“Mae Canolfan S4C Yr Egin yn ddatblygiad pwysig iawn i Gaerfyrddin, i’r Sir ac i Gymru gyfan.

"Mae’n ddatblygiad cyffrous, beiddgar a thrawsnewidiol a fydd yn sicr yn effeithio’n gadarnhaol ar ddatblygiad yr economi, yr iaith a’r diwylliant Cymraeg yn y rhan hon o Gymru a thu hwnt.

"Wrth ddod ag ystod o ymarferwyr creadigol, digidol a diwylliannol at ei gilydd o fewn yr un adeilad eiconig, bydd cyfle i gydleoli ystod o sgiliau a doniau i gyfnewid gwybodaeth, i arloesi ac i greu cyflogaeth, gyda’r iaith Gymraeg yn ganolog ac yn greiddiol i’r datblygiad,” atega.

Mae Cyfarwyddwr Adleoli a Phrosiectau S4C, Garffild Lloyd Lewis yn dweud y bydd Canolfan S4C Yr Egin yn adeilad eiconig ac yn ganolfan i'r gymuned, yn ogystal â bod yn gartref i bencadlys newydd S4C:

"Mae hwn yn gam pwysig iawn i’r holl brosiect, ac mae'n gyffrous gweld Canolfan S4C Yr Egin yn dechrau blodeuo.

Mi fydd yn adeilad eiconig, yn adeilad fydd yn cyflawni gweledigaeth S4C i greu pwerdy creadigol a chanolfan i'r gymuned.

Bydd yn cyfrannu i'r economi, a rhoi hwb i'r iaith a diwylliant yn yr ardal.

"Mae ein brwdfrydedd a'n hymroddiad i'r ganolfan mor gadarn ag erioed ac mi fydd yr Egin yn gartref gwych i bencadlys newydd S4C a nifer sylweddol o gwmnïau eraill ar ddechrau 2018."

Mae tîm dylunio’r prosiect yn bartneriaeth rhwng y Rural Office for Architecture (ROA), cwmni sydd wedi’i leoli yn ardal Castell Newydd Emlyn a BDP (Building Design Partnership), cwmni rhyngwladol o benseiri, peirianwyr a dylunwyr. Niall Maxwell, prif bensaer y prosiect o gwmni ROA, fydd yn cyflwyno cysyniad yr adeilad yn y digwyddiad.

“Mae’r cynllun ar gyfer Canolfan S4C Yr Egin wedi’i seilio ar berthynas rhwng y Brifysgol, ei darpar denantiaid a'r gymuned,” meddai Niall Maxwell.

“Mae'r berthynas hon, neu’r drindod, yn cael ei adlewyrchu yn nyluniad yr adeilad; ffurf drionglog syml sy’n eistedd uwchben tirwedd Sir Gâr.

"Mae’n cael ei gysylltu â'r prif gampws gan sgwâr gyhoeddus mawr, gan ddarparu canolbwynt i'r Brifysgol o fewn ei thirwedd.

“Mae cynllun mewnol yr adeilad wedi’i ganoli o gwmpas cyntedd ac atriwm cyhoeddus, sy'n cysylltu pob llawr gyda chylchrediad o lwybr, gan annog cyfathrebu a rhyngweithio rhwng nifer o ddefnyddwyr yr adeilad.

"Mae'r adeiladau uchel yn cynnig golygfeydd dros dirwedd Sir Gaerfyrddin, un o gadarnleoedd gwylwyr S4C, gan greu cyfleuster unigryw i weithio, hyfforddi a chymdeithasu.

“Mae'r adeilad wedi ei leoli yng nghornel gogledd ddwyreiniol y brifysgol, gan gwblhau grwp o dri adeilad a fydd yn creu pentref cyfryngau ar y campws,” atega.

Yn ogystal â chyflwyno dyluniad yr adeilad roedd y digwyddiad hefyd yn gyfle i gwmnïau o’r diwydiannau creadigol - rhai sydd eisoes wedi dangos diddordeb i fod yn rhan o’r datblygiad a rhai sydd yn clywed cynlluniau’r prosiect am y tro cyntaf – i ddod ynghyd.

Un o’r cwmnïau hynny sydd wedi ymrwymo i ymsefydlu yn rhan o Ganolfan S4C Yr Egin yw The Big Learning Company.

Dywed Louise Harris, Prif Weithredwr y cwmni: “Mae The Big Learning Company yn falch iawn o fod yn gysylltiedig â Chanolfan S4C Yr Egin a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant - ac yn teimlo’n gyffrous iawn i fod yn rhan o’r prosiect arloesol hwn o’r cychwyn cyntaf gan weithio ochr yn ochr â’r goreuon o’r byd addysg yng Nghymru, y Diwydiannau Creadigol a’r sectorau digidol sydd hefyd yn rhan amlwg o’r fenter.

“Mae'r prosiect hwn yn hanfodol bwysig, nid yn unig ar gyfer Caerfyrddin a chefn gwlad Gorllewin Cymru sydd yn gadarnle ar gyfer yr iaith Gymraeg, ond ar gyfer Cymru gyfan, fel porth digidol i weddill y byd, lle mae'r dalent orau a chynnwys Cymreig yn gallu dod o hyd i gyfleoedd a marchnadoedd newydd, cyffrous,” atega.

Dyma’r cyntaf o gyfres o ddigwyddiadau a fydd yn cyflwyno dyluniad Canolfan S4C Yr Egin. Cynhelir cyfarfodydd cyhoeddus i ymgynghori ar y dyluniad yng Nghaerfyrddin ac yng Nghaerdydd yn gynnar ym mis Ionawr. Bydd y cais cynllunio wedyn yn cael ei gyflwyno’n ffurfiol i Gyngor Sir Gâr yn ddiweddarach y mis hwnnw.

Rhannu |