Mwy o Newyddion
Mab yn ddiogel
AR ôl galaru marwolaeth ei mab 23 oed fu farw yn sydyn yn Seland Newydd yn ddiweddar roedd yn rhaid i fam o Dremadog ddisgwyl yn bryderus i glywed os oedd ei hail fab yn ddiogel yn dilyn daeargryn Christchurch.
Ond daeth newyddion da o Seland Newydd ddydd Mercher pan dderbyniodd Yvonne Evans alwad gan ei mab Steven i ddweud ei fod ef a’i dad Tom yn iawn.
Yn dal i geisio dod i delerau â marwolaeth sydyn ei mab, Michael John Pritchard, ddau fis yn ôl yn dilyn trawiad ar y galon ag yntau ddim ond yn 23 oed, eglurodd Mrs Evans yn ei chartref yn Nhremadog mai newydd gyrraedd adref yr wythnos ddiwethaf yr oedd hi, ei merch Ffion a’i chwaer Sharon ar ôl hedfan i Seland Newydd ar gyfer angladd Michael.
Meddai: "Roedd clywed llais Steven fore Mercher yn golygu popeth i mi.”
Symudodd Michael i Seland Newydd at ei dad, Thomas Pritchard, pan oedd yn 16 oed ac fe ddilynodd Steven, 21, ei frawd dair blynedd yn ôl.
I ddarllen y stori i gyd CLICIWCH YMA neu prynwch Y Cymro