Mwy o Newyddion
Perchennog siop yn cael ei garcharu am werthu gwefrau cyfreithlon
Mae perchennog siop o Dreforys yn Abertawe wedi cael ei garcharu am fwy na thair blynedd ar ôl gwerthu 'gwefrau cyfreithlon' i'w gwsmeriaid.
Ymddangosodd Kashif Iqbal, perchennog Rebel Rebel yn Stryd Woodfield, Treforys, gerbron Llys y Goron Abertawe lle plediodd yn euog i werthu cyffuriau Dosbarth B a gwerthu nwyddau sydd wedi'u gwahardd o dan Orchymyn Camddefnyddio Cyffuriau 1971 (Cyffuriau Dosbarth Dros Dro) 2015. Fe'i dedfrydwyd i dair blynedd a hanner o garchar.
Mae'r achos yn dilyn ymchwiliad ar y cyd gan Safonau Masnach Cyngor Abertawe a Heddlu De Cymru, a dderbyniodd gwynion ynghylch gwerthu Sylweddau Seicoweithredol Newydd, a elwir yn wefrau cyfreithlon.
Yn ystod sawl ymweliad â'r eiddo, aeth swyddogion â chynnyrch o'r eiddo gan rybuddio Mr Iqbal i beidio â'u gwerthu mwyach.
Roedd parhau i werthu'r cynnyrch hefyd wedi arwain at ymddygiad gwrthgymdeithasol eang yn yr eiddo ac o'i gwmpas.
Meddai Mark Child, Aelod y Cabinet dros Les a Dinas Iach, "Mae'r cynnyrch hyn yn beryglus ac roedd cyflenwi'r cynnyrch hyn yn barhaus gan Mr Iqbal ar ôl iddo dderbyn cyngor arnynt yn anystyriol.
Roedd cyflenwi'r nwyddau hyn yn peryglu bywydau'r bobl a oedd yn eu defnyddio ac yn arwain at ddefnyddwyr yn ymddwyn yn anghymdeithasol.
"Roedd methiant Mr Iqbal i gymryd cyngor gennym yn rhoi dim dewis i ni ond mynd â'r achos gerbron y llys."
Meddai Tony Meyrick, Arolygydd Heddlu Lleol Treforys, "Does dim amheuaeth bod gwerthu'r nwyddau hyn o'r siop Rebel Rebel yn Nhreforys wedi bod yn gatalydd ar gyfer ymddygiad gwrthgymdeithasol yn y dref.
"Mae swyddogion lleol wedi derbyn llif o wybodaeth a chwynion cyson ynghylch arferion masnachu'r eiddo, yn enwedig ynghylch gwerthu nwyddau i ieuenctid lleol.
"Rydym wedi gweithio gyda Safonau Masnach dros gyfnod hir i geisio atal gwerthu'r eitemau hyn a hoffwn ddiolch i'r gymuned am eu cefnogaeth a'u hamynedd wrth wneud y gwaith hwn.
"Rydym yn gobeithio y bydd y patrolau a'r gweithrediadau amlwg rydym wedi'u cynnal yn Nhreforys wedi lleihau'r ymddygiad gwrthgymdeithasol y mae'n rhaid i'r gymuned ei ddioddef.
"Mae'r erlyniad llwyddiannus yn adlewyrchu'r holl waith caled a wnaed, nid ydym yn gorffwys ar ein rhwyfau a byddwn yn parhau i weithio gyda'n partneriaid yn Safonau Masnach i fynd i'r afael â Sylweddau Seicoweithredol Newydd a mynd i'r afael â'r ymddygiad terfysglyd ac weithiau dreisgar unigolion sy'n prynu'r nwyddau hyn."