Mwy o Newyddion

RSS Icon
17 Tachwedd 2015

Gwobr arbennig i ddynes ifanc o Gaernarfon

Dynes ifanc o Gaernarfon oedd canolbwynt seremoni arbennig yn nhre'r Cofis ddydd Llun (Tachwedd 16) i ddathlu ei llwyddiant yn ennill gwobr Brydeinig.

Dyfarnwyd Zoe Roberts, 25 oed yn enillydd Gwobr Person Ifanc yng ngwobrau ‘No Offence’ ym Manceinion yn ddiweddar.  Ond, gan na fedrodd Zoe fynd i'r seremoni swyddogol, fe ddaeth ei ffrindiau, ei theulu a phobl sydd wedi ei helpu ar hyd ei thaith at ei gilydd yng Nghaernarfon i ddathlu ei llwyddiant. 

Mudiad rhyngwladol ydi ‘No Offence’ gyda’r amcan o wella’r drefn gyfiawnder ac i weithio efo eraill i leihau faint o droseddu ac ail-droseddu sy’n digwydd. Rhan allweddol o waith y mudiad yw rhoi llais i bobl o bob pegwn o’r gyfundrefn cyfiawnder ac i oresgyn rhagfarnau.

Cydnabyddwyd Zoe – sy’n fam i dri – am y ffordd mae hi wedi gweddnewid ei bywyd a sut mae’n gwneud popeth yn ei gallu i helpu pobl ifanc sy’n cael eu hunain mewn trafferthion i newid er gwell.

Un o’r materion sy’n ysbrydoli Zoe yn ei gwaith yw hawliau pobl ifanc i gael mynediad at gyflogaeth a gwasanaethau, a’r cyfleoedd i wneud newidiadau positif i’w bywydau. Er enghraifft, er ei bod wedi troi ei bywyd er gwell, mae hi wedi cael trafferth i ddod o hyd i waith ym maes gofal cymdeithasol oherwydd iddi droseddu pan yn ei harddegau.

“Dw i isio gwella pethau i bobol ifanc sy’n gadael gofal yr awdurdod lleol neu sy’n rhan o’r drefn gyfiawnder," meddai Zoe Roberts. "Dw i isio gwneud yn siŵr fod gan bobol ifanc lais, ac yn bwysicach na dim fod rheiny sydd efo cyfrifoldeb drostyn nhw yn eu deall. 

"Does gen i ddim ofn herio pan dw i’n meddwl bod pobol ddim yn gwrando ar bobol ifanc, a phan dydi pobol ifanc ddim yn cael y gwasanaethau mae ganddyn nhw'r hawl iddyn nhw.”

Enwebwyd Zoe Roberts ar gyfer y wobr gan Carys Jones, Gweithiwr Cymdeithasol sy’n gweithio i Wasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Gwynedd a Môn, a oedd yn Swyddog Goruchwylio ar Zoe am bedair blynedd. 

Nid hon ydi’r wobr gyntaf i Zoe ei hennill. Yn 2013, enillodd wobr Myfyriwr y Flwyddyn Coleg Menai gan iddi eistedd arholiad Gwyddorau Cymdeithasol fel rhan o’i Diploma Gwyddorau Cymdeithasol ddiwrnod yn unig ar ôl rhoi genedigaeth i’w mab, Harvey.

Cyflwynwyd y wobr ddiweddaraf hon i Zoe nos Lun gan y Cynghorydd Mair Rowlands, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Blant a Phobl Ifanc a Marian Parry Hughes, Pennaeth Gwasanaethau Cymdeithasol Plant y Cyngor. 

 

Llun: Zoe Roberts o Gaernarfon gyda’i gwobr

 

Rhannu |