Mwy o Newyddion

RSS Icon
17 Tachwedd 2015

O’r Byd a’r Bedwar i’r Brifysgol

Mae darpariaeth Newyddiaduraeth cyfrwng Cymraeg Prifysgol Caerdydd wedi derbyn hwb sylweddol yn sgil penodiad newydd trwy Gynllun Staffio Academaidd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Mae’r newyddiadurwraig brofiadol Sian Morgan Lloyd wedi cychwyn fel darlithydd dan nawdd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol y brifysgol.

Mae Sian yn olynu cyn-bennaeth BBC Radio Wales, Sali Collins ac yn gobeithio datblygu ar y cynnydd yn narpariaeth cyfrwng Cymraeg yr ysgol.

Eleni am y tro cyntaf mae modd i fyfyrwyr astudio gradd cydanrhydedd Newyddiaduraeth a Chymraeg, yn ogystal â dilyn modiwlau unigryw unigol megis Yr Ystafell Newyddion.

Mae'r cwrs, sy’n cyfuno astudiaeth academaidd gyda chyfleoedd ac addysgu ymarferol, yn gymwys i dderbyn ysgoloriaeth gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Wedi degawd yn gohebu ar raglen Y Byd ar Bedwar o bob cwr o’r byd, tasg Sian fydd ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o newyddiadurwyr Cymraeg eu hiaith a’u hannog i weithio yn y diwydiant trwy gyfrwng y Gymraeg.

Yn ôl Sian: ‘’Fy ngobaith yn y pen draw yw meithrin hyder pobl ifanc i astudio trwy gyfrwng y Gymraeg ac i gyfrannu at fywyd newyddiadurol Cymru, ac rwy’n gwybod o brofiad bod yna alw am newyddiadurwyr iaith Gymraeg yn y maes.

"Gobeithio y bydd modd i mi gyfoethogi'r ddarpariaeth a phrofiad y myfyrwyr yma, lledaenu'r neges am ein gwaith ar draws Cymru yn ogystal ag adeiladu ar enw da'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Phrifysgol Caerdydd.’’

Rhannu |