Mwy o Newyddion
Peryglon ffliw yn ystod beichiogrwydd
Mae swyddogion iechyd wedi pwysleisio’r wythnos yma fod gan ffliw beryglon gwirioneddol i fenywod beichiog, ac maent yn atgoffa darpar famau i ddiogelu eu hunain a’u baban heb ei eni rhag y ffliw.
Mae menyw feichiog sy’n cael ffliw yn fwy tebygol o gael salwch difrifol, ac mae’n fwy tebygol o gael baban pwysau isel neu i’w baban gael ei eni/geni’n gynnar. Gall arwain hyd yn oed at ei baban yn marw yn ystod wythnos gyntaf bywyd.
Gellir rhoi brechlyn ffliw yn ddiogel yn ystod beichiogrwydd, ac felly mae swyddogion iechyd yng Nghymru yn annog menywod beichiog i gael eu brechlyn ffliw rhad ac am ddim a helpu diogelu eu hunain a’u baban heb ei eni.
Dywedodd Helen Rogers, Cyfarwyddydd Coleg Brenhinol Bydwragedd yng Nghymru: “Rwyf yn annog menywod beichiog i ddiogelu eu hunain rhag firws y ffliw.
"Mae hyn yn hollbwysig ar hyn o bryd gan ein bod yn mynd i mewn i’r tymor ffliw, ac nid yw llawer o fenywod beichiog yn deall risg ffliw a’i gymhlethdodau, nid yn unig iddyn nhw’u hunain ond i’w baban heb ei eni.
"Ni ddylai unrhyw fam gymryd y risg honno: gofynnwch i’ch bydwraig neu’ch meddyg teulu am hyn ac arhoswch yn ddiogel y gaeaf hwn.”
Mae nifer o astudiaethau wedi dangos hefyd fod brechiad ffliw yn ystod beichiogrwydd yn cynnig lefel o imiwnedd rhag ffliw i blant bach yn ystod misoedd cyntaf eu bywydau.
Gall menywod gael y brechiad ffliw ar unrhyw adeg yn ystod eu beichiogrwydd, ond gorau po gyntaf. Mae’n ddiogel ei gael yn ystod beichiogrwydd a hefyd i fwydo o’r fron ar ôl cael y brechiad ffliw. Cafodd llawer o wybodaeth a data ar frechlynnau ffliw anweithredol eu casglu o bedwar ban byd ac nid oes unrhyw awgrym fod y brechiadau hyn yn cael effaith andwyol ar y fam na’r baban.
Mae’r Dr Richard Roberts, Pennaeth Rhaglen Heintiau y Gellir eu Hatal trwy Frechlyn yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn esbonio pam, a sut, ddylai menywod beichiog amddiffyn eu hunain rhag ffliw: “Nid oes gan famau sy’n disgwyl yr un gallu â phobl iach eraill i ymladd firysau fel y ffliw, a gall hyn fod yn ddifäol i’r fenyw a’i baban heb ei eni.
“Os yw menyw feichiog yn cael y ffliw gall greu cymhlethdodau difrifol i’r fam a’r baban: ond gellir atal hyn oll gydag un brechiad cyflym, syml, rhad ac am ddim”.
Mae’r rhaglen brechiadau ffliw flynyddol yn ceisio sicrhau bod pawb sydd ei angen yn cael amddiffyniad am ddim bob blwyddyn rhag y ffliw. Mae hyn yn cynnwys pawb sy’n 65 a throsodd a phobl a chanddynt rai cyflyrau meddygol hirdymor, yn ogystal â menywod beichiog.
Mae pob plentyn dwy a thair oed ar 31 Awst 2015, a phlant yn y dosbarth derbyn, blwyddyn un a blwyddyn dau yn yr ysgol hefyd yn cael cynnig cael eu diogelu gan frechlyn ffliw chwistrell trwyn. Bydd y plant dwy a thair oed yn cael eu brechlyn chwistrell trwyn yn eu meddygfa leol a bydd plant yn y dosbarth derbyn, blwyddyn un a blwyddyn dau (plant 4 – 6 oed yn gyffredinol) yn cael cynnig eu brechlyn chwistrell trwyn yn yr ysgol.
Gall darllenwyr gael gwybod mwy am sut i gael eu brechlyn rhad ac am ddim trwy fynd i www.beatflu.org.uk neu www.curwchffliw.org.uk, neu trwy ddod o hyd i Beat Flu neu Curwch Ffliw ar twitter a facebook.
Mam tro cyntaf yn dewis cael brechiad ffliw
A hithau’n gweithio ym maes gofal iechyd, gwelodd Dr Sikha De Souza drosti ei hun sut all ffliw gael effaith ddifrifol ar iechyd pobl. Gan ei bod yn disgwyl ei phlentyn cyntaf ar ddiwedd mis Tachwedd, nid oedd gan Sikha unrhyw amheuon am gael ei brechiad ffliw.
“Oherwydd fy swydd cefais y brechiad bob blwyddyn ac mae wedi fy niogelu yn effeithiol iawn. Clywais lawer o sylwadau am ei effeithiolrwydd, ond mae ffliw yn salwch difrifol iawn ac mae unrhyw beth y gellir ei wneud i fynd i’r afael ag ef yn hollbwysig.”
Mae Sikha, sy’n hanu o Gastell-nedd ond sydd erbyn hyn yn byw a gweithio yng Nghaerdydd, yn un o gannoedd o ddarpar famau yng Nghymru sydd eisiau diogelu eu hunain a’u babanod rhag peryglon gwirioneddol ffliw, all fod yn arbennig o beryglus i famau beichiog.
“Beth synnodd fi oedd y bobl a awgrymodd na ddylwn gael y pigiad eleni oherwydd fy meichiogrwydd. Gan y cefais fy mrechu ers blynyddoedd i ddiogelu fy hun a phobl o’m cwmpas, roeddwn yn teimlo ei bod yn bwysicach fyth eleni gan fod gennyf berson ychwanegol i’w ddiogelu. Mae’n fater o leihau risg nid ei gynyddu!”
“Ni allaf bwysleisio digon pa mor bwysig yw’r brechiad hwn a’r ffordd y gall ddiogelu rhag salwch sy’n gallu bod yn ddifrifol iawn. Byddwn yn annog pob mam feichiog arall yng Nghymru i wneud yr un peth cyn gynted ag y gallant – da chi peidiwch mentro gyda ffliw. Cymerwch y brechiad a churo ffliw cyn iddo’ch curo chi.”
Llun: Dr Sikha De Souza