Mwy o Newyddion

RSS Icon
17 Tachwedd 2015

Taclo jac y neidiwr ar hyd afonydd canolbarth Cymru

Yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru, mae gwaith i gael gwared â jac y neidiwr o dair afon yng nghanolbarth Cymru yn dangos arwyddion o lwyddiant.

Erbyn hyn mae cwm Ystwyth yn weddol glir o jac y neidiwr i lawr i Lanilar, ac mae’r un peth yn wir am gwm Rheidol i lawr i Aberffrwd a dyffryn Teifi i lawr i Lanbedr Pont Steffan.

Gall jac y neidiwr fod yn broblem enfawr i fywyd gwyllt. Mae’n drech na phlanhigion brodorol ac yn eu disodli. Mae’n arwain at erydu’r glannau, a gall hyn effeithio ar ansawdd y dŵr a mygu gwlâu silio pysgod, ac ar yr un pryd mae’n cyfrannu at gynyddu perygl llifogydd i lawr yr afon.

Meddai Andy Polkey, Uwch-reolwr Gwarchodfeydd Natur CNC yng Ngheredigion: “Gan fod jac y neidiwr yn tyfu ar lannau afonydd, caiff yr hadau eu cludo i lawr yr afon bob blwyddyn, gan ledu i ardaloedd newydd. Trwy daclo’r broblem yn rhannau uchaf y dalgylchoedd, rydym yn gwneud i’n harian fynd ymhellach drwy weithio i lawr yr afon a rhwystro’r planhigyn rhag ailsefydlu.

“Eisoes, rydym yn gweithio gyda Statkraft, Sefydliad Tir Gwyllt Cymru ac Ymddiriedolaeth Afonydd Teifi, ond rydym yn croesawu unrhyw help gan dirfeddianwyr, grwpiau cymunedol a buddiannau pysgota i reoli jac y neidiwr, yn enwedig mewn cynefinoedd i lawr yr afonydd lle mae mwy o bobl yn byw a lle mae’n haws cael mynediad at y glannau.”

Tom Taylor, contractwr lleol, sy’n clirio jac y neidiwr ar ran CNC. Mae Tom wedi creu blog arbennig (http://blog.himalayanbalsamwales.co.uk) er mwyn galluogi pobl i weld sut y mae’r gwaith yn dod yn ei flaen a rhoi gwybod am unrhyw jac y neidiwr a welant. Ymhellach, mae CNC wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a Natural Solutions ar ap ffôn sy’n caniatáu i bobl adnabod a chofnodi lleoliad rhywogaethau goresgynnol – www.planttracker.org.uk.

Ymhellach, mae CNC yn ystyried ffyrdd newydd o ganfod a dileu rhywogaethau goresgynnol. Eleni, rhoddwyd cynnig ar ddull rheoli biolegol trwy ddefnyddio llwydni ar bedwar safle yng Nghymru. Os bydd y dull hwn yn llwyddiannus, gallai leihau’r angen i ddadwreiddio jac y neidiwr yn y dyfodol.

Ychwanegodd Andy: “Er mwyn lleihau faint o jac y neidiwr sy’n ymddangos, mae’n bwysig ei ddadwreiddio neu ei dorri sawl gwaith y flwyddyn cyn iddo gynhyrchu hadau. Rhaid inni barhau i fod yn wyliadwrus o jac y neidiwr ar hyd yr afonydd hyn, fel y gall bywyd gwyllt ffynnu ac fel y gall pobl fwynhau ac elwa ar amgylcheddau afon a gaiff eu rheoli’n briodol.”

Diddordeb mewn gwirfoddoli i ddadwreiddio jac y neidiwr yng nghwm Rheidol? Cysylltwch â’r canlynol: wwlf@cambrianwildwood.org.

Cafodd jac y neidiwr ei gyflwyno i’r DU am y tro cyntaf yn 1839 fel planhigyn gardd. Mae’n cynhyrchu miloedd o hadau bob blwyddyn, a hynny ar ffurf codau sy’n ffrwydro ac yn rhyddhau’r hadau sawl metr i ffwrdd. Gan fod yr hadau’n gallu arnofio, gall y planhigyn ymledu’n eithriadol o gyflym, gan adael y glannau a mynd ar hyd ffosydd, gwrychoedd ac ymylon ffyrdd, gan ymledu mewn coetiroedd hyd yn oed.

Trwy gael gwared â jac y neidiwr o ddalgylchoedd uchaf y tair afon hyn, mae CNC yn diogelu bywyd gwyllt a chynefinoedd hollbwysig, yn arbennig yng Ngwarchodfa Natur Grogwnion yng nghwm Ystwyth, yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Coed Rheidol yng nghwm Rheidol ac yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Cors Caron yn nyffryn Teifi.

Rhannu |