Mwy o Newyddion
AS yn beirniadu Trip Advisor am wrthod cyhoeddi adolygiad yn y Gymraeg
Mae Arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan ac AS dros Arfon, Hywel Williams wedi synnu bod gwefan deithio Trip Advisor wedi gwrthod cyhoeddi adolygiad oherwydd ei fod yn y Gymraeg yn unig.
Cafodd adolygiad o Amgueddfa Forwrol Llŷn yn Nefyn ei gyflwyno i'r safle gan etholwr i Hywel Williams AS, Emrys Llewelyn, sy'n rhedeg busnes teithiau tywys Dro Dre yng Nghaernarfon.
Fodd bynnag, cafodd adolygiad Mr Llewelyn ei wrthod ar y sail ei fod yn groes i bolisi iaith Trip Advisor oherwydd iddo gael ei ysgrifennu yn y Gymraeg.
Mae Hywel Williams AS wedi ysgrifennu at bencadlys Trip Advisor yn Llundain yn annog y cwmni i ddiweddaru eu canllawiau a chaniatáu adolygiadau ysgrifenedig yn y Gymraeg. Mae hefyd wedi dod â'r mater i sylw Comisiynydd y Gymraeg.
Dywedodd Hywel Williams AS: “Mae Trip Advisor yn derbyn adolygiadau uniaith mewn amrywiaeth eang o ieithoedd o Czech i Norwyeg, Swedeg a Serbeg.
"Yr wyf yn synnu ac yn siomedig eu bod yn gwrthod gwneud hynny yn yr iaith Gymraeg.
"A ydynt yn meddwl nad yw siaradwyr Cymraeg yn defnyddio eu gwasanaeth?
"Byddai adolygiad yn y Gymraeg yn arbennig o briodol i’r atyniad hwn o ystyried ei leoliad mewn ardal lle mae'r Gymraeg yn cael ei siarad a’i defnyddio gan rhan helaeth o’r boblogaeth.
"Mae Trip Advisor yn honi eu bod yn cynrychioli'r gymuned deithio mwyaf yn y byd. Yn amlwg nid ydynt yn cynnwys rhai aelodau o'r gymuned honno, naill ai'n fwriadol neu'n ddiofyn.
"Mae profi amrywiaeth o ran diwylliant, treftadaeth ac iaith pobl yn un o bleserau mwyaf teithio, os oes gennych feddwl agored. Rwy'n eu hannog i newid eu polisi i fod yn gynhwysol o'r iaith Gymraeg.”