Mwy o Newyddion

RSS Icon
17 Tachwedd 2015

Symud BBC Cymru i sbarduno 'hwb £1bn' i ardal Caerdydd

Bydd Cymru yn elwa o hwb economaidd gwerth dros £1 biliwn o ganlyniad i adleoli BBC Cymru i ganol dinas Caerdydd, yn ôl adroddiad newydd.

Mae’r adroddiad annibynnol - gan yr arbenigwyr rhyngwladol ar yr economi creadigol BOP Consulting - yn amlinellu effeithiau uniongyrchol ac anuniongyrchol symud pencadlys y darlledwr, fydd yn dechrau yn 2019.

Dros y deng mlynedd nesaf, bydd yr effaith economaidd ar draws diwydiannau, yn cynnwys adeiladu a thwristiaeth, yn cyfateb i Werth Ychwanegol Crynswth (GYC) amcan o £1.1bn a ffigwr sy’n cyfateb i 1,900 o swyddi llawn amser - llawer ohonynt gyda chyflogau da. Dyma’r tro cyntaf i gyfraniad economaidd canolfan ddarlledu newydd BBC Cymru gael ei ymchwilio a’i fesur.

Mae’r adroddiad yn pwysleisio’r rôl allweddol y mae pendefyniad BBC Cymru wedi ei gael ar radd cyflynder yr ailddatblygiad yn Sgwâr Canolog, gan nodi bod Legal and General yn enghraifft o fusnes a welodd bresenoldeb BBC Cymru fel ffactor allweddol yn eu penderfyniad hwythau i ymrwymo i bartneriaeth gyda’r datblygwr Rightacres.

Mae adroddiad BOP hefyd yn cyfeirio at glystyru busnesau sy’n ymwneud â’r cyfryngau yn ardal Caerdydd a’r effaith gadarnhaol y mae hyn wedi ei gael ar dwf sgiliau arbenigol. Mae’r BBC eisoes wedi chwarae rôl allweddol yn y maes sgiliau, gyda gweithgaredd ar gynyrchiadau rhwydwaith BBC Cymru, gan gynnwys ei gynyrchiadau drama o safon uchel ym Mhorth y Rhath, gan gyfrannu at benderfyniadau buddsoddi gan nifer o stiwdios yn ne Cymru dros y blynyddoedd diwethaf - Cas-gwent, Dragon, Pinewood a Bae Abertawe.

A chyda datblygiad ei ganolfan ddarlledu newydd yn Sgwâr Canolog, mae BBC Cymru bellach mewn lle da i sbarduno rhagor o dwf yn y sector a sgiliau mwy arbenigol fydd yn eu tro â’r potensial i arwain at fuddsoddiad uniongyrchol pellach o dramor.

“Er y gallai Sgwâr Canolog fod wedi digwydd beth bynnag, mae’n amlwg na fyddai lefel yr effaith wedi digwydd oni bai am BBC Cymru,” meddai Richard Naylor, Cyfarwyddwr Ymchwil yn BOP Consulting. “Y gwahaniaeth economaidd hanfodol yw bod BBC Cymru yn gatalydd ar gyfer buddsoddiad masnachol a gwariant defnyddwyr, sydd yn gyflym yn creu cyfleoedd economaidd na fyddai’n bodoli fel arall.”

“Mae’r hwb economaidd hwn sydd yn werth £1bn yn tanlinellu’r gwahaniaeth y gall BBC Cymru ei wneud,” meddai Rhodri Talfan Davies, Cyfarwyddwr BBC Cymru. “Rydym yn gadael safle mawr, aneffeithlon yn Llandaf ac yn symud i ofod llai sy’n fwy cost-effeithiol yn Sgwâr Canolog oherwydd bod angen i ni weithio’n glyfrach ac yn fwy effeithiol. Ond mae’r fantais gwerth £1.1 biliwn sy’n cael ei sbarduno gan y symudiad yn hwb mawr i’r economi ac ar gyfer y bobl sy’n byw yma.”

Dywedodd y Cynghorydd Phil Bale, Arweinydd Cyngor Dinas Caerdydd:  “Rydym wedi bod yn frwd o blaid adfywio’r ardal yma o ganol y ddinas.

"Rydym wedi bod yn hyderus o’r cychwyn y byddai ein cynlluniau i ail-ddatblygu’r Sgwâr Canolog yn sicrhau ei fod yn borth i’r rhanbarth y gall pawb ymfalchio ynddo. Ond yn benodol, roeddem hefyd yn credu y byddai’n dod â swyddi a hwb economaidd fydd yn gwthio Caerdydd i fyny’r rhengoedd wrth i ni geisio bod yn un o’r dinasoedd mwyaf dymunol i fyw ynddi.

"Mae’r newyddion fod adleoliad y BBC am greu hwb o £1bn i’r economi leol yn atgyfnerthu’r grêd honno. Rwy’n edrych ymlaen yn eiddgar i weld y datblygiad yma’n mynd o nerth i nerth ac i wylio’r budd a ddaw i bawb sy’n byw yma.”

Mae amryw o ffactorau eraill sy’n cyfrannu at y ffigurau sylweddol am effaith economaidd:

·         Mae cyflymder yr ailddatblygu, a wnaed yn bosibl oherwydd buddsoddiad y BBC, yn golygu y bydd Caerdydd a’r ardal gyfagos yn medi manteision ariannol yn gyflym.

·         Bydd presenoldeb y BBC nid yn unig yn denu busnesau sy’n gysylltiedig â’r diwydiant creadigol i leoli yn y ddinas-ranbarth, bydd hefyd yn gwneud Sgwâr Canolog a’r ardal o gwmpas yn fwy deniadol i fusnesau o amrywiaeth o sectorau.

·         Bydd gwelliannau cludiant, sy’n rhan annatod o ddatblygiad Sgwâr Canolog, yn helpu i wasgaru’r budd economaidd ar draws y rhanbarth ehangach gyda chynnydd cyffredinol mewn cyflogaeth ar draws yr ardal gyfan.

·         Bydd y gwelliant i drafnidiaeth hefyd yn helpu i leihau ôl-troed carbon ardal Caerdydd.

·         Bydd rhaglen o adeiladu tai - gan gynnwys tua 400 o gartrefi newydd ar safle presennol BBC Cymru yn Llandaf - hefyd yn cyfrannu at yr effaith economaidd sylweddol.

Yn seiliedig ar waith ymchwil ansoddol a meintiol helaeth, mae’r adroddiad yn ystyried nifer ac amrywiaeth y busnesau sy’n debygol o glystyru yn Sgwâr Canolog, gan greu system eco cymysg o gyflenwyr y diwydiant creadigol yn ogystal â chorfforaethau sector breifat ar draws diwydiannau eraill.

Arweinir datblygiad Sgwâr Canolog gan Rightacres. Mae symudiad arfaethedig y BBC i ganol y ddinas bellach wedi ei gadarnhau yn llawn a bydd y gwaith adeiladu yn dechrau ar unwaith.

Llun: Rhodri Talfan Davies

Rhannu |