Mwy o Newyddion
Perfformiad ychwanegol - hwylio ar fwrdd y Mimosa unwaith eto
Bydd perfformiad ychwanegol o sioe Mimosa, fu ar daith yng Nghymru a Phatagonia dros yr haf, yn cael ei llwyfannu yn Theatr Clwyd nos Sul, 20 Rhagfyr yn dilyn adolygiadau gwych y ddwy ochr i’r Iwerydd.
Mae’r sioe wedi ei disgrifio fel ‘ocsigen i’r diwylliant Cymreig’ ym Mhatagonia ac roedd pob sedd yn llawn yn y tri perfformiad yng Nghymru. Mae’n gynhyrchiad ar y cyd rhwng yr Urdd a Clwyd Theatr Cymru Theatr ar gyfer Pobl Ifanc, ac roedd pedwar actor proffesiynol, 16 o Gymry ifanc a 2 Archentwr yn rhan o’r perfformiad.
Mae’r sioe yn dilyn hanes mordaith gyntaf y Cymry i Batagonia ar long y Mimosa. Tim Baker sydd wedi ysgrifennu a chyfarwyddo y sioe.
Meddai: “Er mwyn creu'r sgript rwyf wedi gweithio law yn llaw gyda haneswyr a dogfennau gwreiddiol y cyfnod. Hanes ein cyndeidiau Cymreig yn cymryd y cam mentrus o adael Cymru ar daith 60 diwrnod o Lerpwl i chwilio am fywyd gwell yn ne America. Mai’n stori hudolus, anhygoel ond stori sydd hefyd yn llawn siom, dicter a chaledi.”
Cafodd y sioe ymateb gwych ym Mhatagonia, gyda nifer yn eu dagrau erbyn diwedd y perfformiad. Un a fu yn gwylio y ddrama draw ym Mhatagonia oedd Ricardo Lagiard.
Dywedodd: “Yn ystod fy mywyd hir yn y Dyffryn hwn, dyma’r tro cyntaf i mi wirioneddol fwynhau drama yn yr iaith Gymraeg. Roedd naratif doeth y stori sy’n llawn momentau trawiadol, ynghyd â chyfoeth y gerddoriaeth chwaethus yn deffro y gynulleidfa o lawer o emosiynau.”
Un arall fu’n gwylio’r cynhyrchiad allan ym Mhatagonia oedd Marcelo Andres Roberts.
Meddai: “Roedd yr hyn wnaeth y daith theatrig hon i Chubut yn bwysig iawn, ac yn siŵr o aros yng nghof y gymuned Gymraeg am amser hir iawn gan greu cwlwm cryf rhwng y pobl ifanc fu’n perfformio a Phatagonia. Roedd yn ocsigen i’r diwylliant Cymraeg yma.”
Ychwanegodd y Cyfarwyddwr, Tim Baker: “Roedd yn brofiad arbennig bod ar daith ym Mhatagonia ac roedd y croeso a gawsom yn hollol anhygoel. Dydw i erioed wedi gweld cynulleidfa yn canolbwyntio gymaint ac roedd y teimlad yn hollol drydanol fel oedd stori yr ymfudwyr cyntaf yn cael ei dadlennu. Llwyddodd pob perfformiad – y ddau yn yr Eisteddfod, yng Nghaerdydd a phob perfformiad ym Mhatagonia – i gael y gynulleidfa ar eu traed yn cymeradwyo. Roeddem wir yn teimlo fel ein bod wedi creu rhywbeth arbennig.”
Bydd y perfformiad ychwanegol o’r Mimosa i’w weld yn Clwyd Theatr Cymru nos Sul, 20 Rhagfyr am 7.00pm. Mae tocynnau ar gael trwy ffonio 01352 701521.