Mwy o Newyddion

RSS Icon
16 Tachwedd 2015

Hanner canrif o hiwmor, enllib a rhyw

Yr wythnos hon, mewn parti lansio yn Clwb Canol Dre, Caernarfon fe cyhoeddir cyfrol i ddathlu a chofnodi 50 mlynedd ers sefydlu cylchgrawn Lol gan roi blas ar rai o uchafbwyntiau ac isbwyntiau y cylchgrawn ar hyd y blynyddoedd.

Mae Llyfr Mawr LOL, a olygwyd gan Arwel Vittle, yn gyfrol ddeniadol llawn o destun gwreiddiol fydd yn rhoi cyflwyniad i bob rhifyn o gylchgrawn Lol gan eu gosod o fewn cyd-destun cenedlaethol a rhyngwladol y cyfnod. Bydd yn cynnwys llu o gartwnau a lluniau o bob un rhifyn i gynrychioli’r gorau o’r flwyddyn honno.

Er bod pwyslais ar ddifyrrwch, hiwmor a hwyl yn y gyfrol hon cawn hefyd flas a mewnwelediad i fywyd Cymru dros yr hanner canrif ddiwethaf drwy olwg un o gylchgronau mwyaf eiconig a dychanol Cymru – gan daro golau newydd ar ambell gyfnod gyda storiau tu ôl i’r llenni, yn ogystal â’r achosion enllib enwog.

Dechreuodd dathliadau’r 50 mlwyddiant yn ystod yr haf pan welwyd cyhoeddi rhifyn 50 Cylchgrawn Lol yn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn â’r Gororau gan brofi’n boblogaidd a denu cryn dipyn o sylw.

Sefydlwyd Cylchgrawn Lol yn ôl yn 1965 gan Robat Gruffudd a Penri Jones a byth ers hynny mae’r ‘rhecsyn anllad’ wedi bod wrthi yn dychanu a herio y ‘Sevydliad’ yng Nghymru - ymhlith sawl ffigwr arall megis Carlo, Cynan, Alun Talfan, Mistar Urdd … a heb anghofio’r bytholbresennol Dafydd Elis Thomas sydd wedi hawlio ei le ar glawr y gyfrol.

"Dros yr hanner can mlynedd diwethaf Lol, yn anad unrhyw gylchgrawn arall, a gofnododd hanes cel Cymru – yr hanes sydd wedi ei guddio o’r golwg o dan yr hanes ‘swyddogol’. medd golygydd y gyfrol, Arwel Vittle.

"Mae pori drwy hen rifynnau Lol fel darllen cofnod amgen gan roi darlun o’r ffraeo a’r cecru am y Gymraeg, sgandalau gwleidyddion a ffigurau cyhoeddus, achosion enllib amrywiol y cylchgrawn, lluniau merched noeth y chwedegau a’r saithdegau a straeon caletach y degawd diwethaf am y mewnlifiad ac wrth i dren grefi S4C fynd oddi ar y cledrau’.

Meddai Arwel am un o sylfaenwyr y cylchgrawn, Robat Gruffudd: "Mae’n deg dweud na fyddai’r llyfr hwn na Lol ei hun wedi gweld golau dydd oni bai am ei ysbrydoliaeth chwyldroadol."

Dywed Robat: "Gan nad oedd yn bosibl i Lol, sy’n gylchgrawn gwrth-sefydliad, ddenu grant gan y sefydliad, ry’n ni’n ddyledus iawn i bawb a gariodd y fflam dros y blynyddoedd, yn olygyddion, yn gartwnwyr a ffotograffwyr, yn feirdd a llenorion ac enllibwyr a newyddiadurwyr hyd yn oed."

Ond beth am ddyfodol y cylchgrawn?

"Ro’n i wedi ffansio bod y rhifynnau diwethaf, o dan aden Cwmni Drwg, yn siapio i ryw batrwm, ond mae pawb yn dweud mai’r rhifyn gorau yw’r un diwethaf – yr hanner canfed – a olygwyd gan ddwy ferch ifanc frwdfrydig. Mae hyn yn argoeli’n dda ar gyfer y dyfodol," meddai Robat Gruffudd.

Bu’n anweddus, yn blentynnaidd a dialgar, ond ar yr un pryd yn ffraeth, yn iachus ac yn hanfodol ac fe gaiff y cyfan ei lunio yn y llyfryn deniadol hwn sy’n rhoi darlun o hanes diwylliannol a gwleidyddol y cyfnod diwethaf.

Bydd parti lansio yng Nglwb Canol Dref, Caernarfon ar nos Iau, Tachwedd y 19eg am 8 o’r gloch yng nghwmni Geraint Lovgreen, Emyr Himyrs ac eraill. Pris mynediad yw £5 - fydd yn rhoi gostyngiad ar bris y llyfr. Gellir prynu tocynnau yn siop Palas Print neu wrth y drws.

Mae Llyfr Mawr LOL ar gael nawr (£14.99, Y Lolfa).

Rhannu |