Mwy o Newyddion

RSS Icon
16 Tachwedd 2015

AS yn lansio deiseb i gadw swyddfa dreth Porthmadog ar agor

Mae AS Plaid Cymru dros Ddwyfor Meirionnydd Liz Saville Roberts wedi lansio deiseb yn galw ar yr HMRC (Cyllid a Thollau) i wrthdroi eu penderfyniad i gau canolfan alwadau Cymraeg ym Mhorthmadog, gan beryglu tua ugain o swyddi lleol a chanoli gwasanaethau ymhellach i ffwrdd o gymunedau gwledig.

Daw hyn ar ôl i HMRC gyhoeddi cynlluniau i gau holl swyddfeydd trethi yn y DU gan sefydlu tair ar ddeg o ganolfannau rhanbarthol yn eu lle. Bydd Cymru gyfan yn cael ei gwasanaethu gan un ganolfan yng Nghaerdydd. Disgwylir i staff sy'n gweithio ym Mhorthmadog a Wrecsam symud i Lerpwl.

Disgwylir i Liz Saville Roberts AS godi'r mater yn Nhŷ'r Cyffredin yr wythnos hon. Mae paratoadau ar y gweill hefyd i gynnal rali ym Mhorthmadog i ddangos undod gyda’r gweithwyr.

Dywedodd Liz Saville Roberts: “Mae hyn yn achosi ansicrwydd mawr yn lleol a bydd yn cael effaith anghymesurol ar ardal fel Porthmadog. Mae argaeledd y gwasanaeth yng Ngogledd Cymru ac arwyddocâd swyddi lleol sy'n talu'n dda yng Ngwynedd yn ffactor bwysig iawn yma.

"Mae llywodraeth y DU yn awyddus i symud yr uned iaith Gymraeg o Wynedd i lawr i Gaerdydd: Mae hyn yn arbennig o eironig o ystyried y byddai'r rhan fwyaf o bobl sy'n chwilio am atebion Cymraeg i gwestiynau treth yn gweld Porthmadog yn llawer mwy hygyrch nag De-ddwyrain Cymru.

"Mae ein cymunedau yn haeddu gwasanaeth Cymraeg llawn, yn enwedig o ystyried nad yw gwasanaethau ar-lein Cyllid a Thollau bob amser ar gael yn Gymraeg. I gymhlethu'r sefyllfa, mae'r system ffôn awtomataidd a ffafrir gan y llywodraeth wedi cael ei disgrifio fel affwysol gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus.

"Rwy'n annog pobl leol i gefnogi'r ymgyrch hon ac anfon neges glir i'r Llywodraeth Dorïaidd yn Llundain; Ni fyddwn yn sefyll yn ôl tra bod ein gwasanaethau lleol yn cael eu hanrheithio yn barhaus yn y modd hwn.”

I arwyddo’r ddeiseb ewch i; http://www.gopetition.com/petitions/keep-jobs-at-hmrc-porthmadog-north-wales.html

Rhannu |