Mwy o Newyddion
Cymru'n 'lle gwych i fod yn feddyg iau'
Mae'r Gweinidog Iechyd, Mark Drakeford yn annog meddygon iau i "ddod i hyfforddi, byw a gweithio yng Nghymru".
Ar hyn o bryd, mae meddygon iau wrthi'n penderfynu lle i wneud cais am leoedd hyfforddi arbenigol, gan gynnwys hyfforddiant Meddygol Craidd a hyfforddiant Meddygaeth Teulu. Mae'r darpar ymgeiswyr yn cynnwys y rheini yn eu blwyddyn hyfforddi F2, pobl sy'n ailafael mewn hyfforddiant a rhai sydd wedi'u recriwtio o dramor a fydd yn dewis lleoedd hyfforddiant craidd dros y tair wythnos nesaf.
Fel rhan o ymgyrch wedi'i thargedu, 'Make your future part of our future', mae'r Gweinidog wedi rhyddhau neges fideo sy'n egluro pam fod Cymru'n lle gwych i fod yn feddyg iau.
Yn ei neges, mae'r Gweinidog yn dweud bod egwyddorion sylfaenol y GIG yn parhau yn graidd i'r gwasanaeth yng Nghymru.
Mae'r gwariant ar y GIG yng Nghymru wedi cyrraedd lefel uwch nag erioed, gyda £6.7bn yn cael ei fuddsoddi yn y gwasanaeth iechyd yn ystod 2015/16 – sef y swm uchaf erioed.
Mae cynnig Cymru i feddygon iau yn cynnwys:
* Bargen deg yn ystod eu blynyddoedd yn hyfforddi, ac mae'r GIG yng Nghymru am weithio gyda meddygon i gyflawni hyn;
?* System iechyd integredig sy'n canolbwyntio ar y cleifion ond sydd hefyd yn gwerthfawrogi'r staff sy'n gweithio iddi ar bob lefel;
?* Bod ar flaen y gad yn yr ymgyrch Gofal Iechyd Darbodus ryngwladol i sicrhau canlyniadau gwell o ran gwerth ac iechyd, ac rydym am i'n meddygon dan hyfforddiant ein helpu i ddatblygu hyn;
?* Contract Addysg â'r bwriad o amddiffyn yr amser sy'n ofynnol i hyfforddi gan roi'r profiad gwasanaethu gwerthfawr gofynnol iddyn nhw;
?* Cynllun Cymrodoriaeth Arweinydd Clinigol lle gallwch gymryd seibiant o'ch hyfforddiant am flwyddyn a gweithio ar wneud gwahaniaeth mewn maes o'ch diddordeb, a chynllun academaidd i fynd ar drywydd tuag at Feddygaeth academaidd.
Yn ôl Arolwg Cenedlaethol i Hyfforddeion 2015 y Cyngor Meddygol Cyffredinol, a gafodd gyfradd ymateb ryfeddol o 99% gan hyfforddeion yng Nghymru, mae boddhad cyffredinol yr holl hyfforddeion yng Nghymru wedi cynyddu am y bedwaredd flwyddyn yn olynol i 83% yn 2015, sy'n uwch na'r cyfraddau boddhad mewn rhannau eraill o'r DU.
Mewn neges i feddygon iau, dywedodd yr Athro Drakeford: "Ganwyd y gwasanaeth iechyd yng Nghymru. Cafodd ei sefydlu gan Aneurin Bevan, ac mae'r gwasanaeth yn ffrwyth y ddelfryd y dylai gofal iechyd da fod ar gael i bawb, ni waeth beth yw eu sefyllfa ariannol.
"Pan gafodd ei lansio ar 5 Gorffennaf 1948, roedd yn seiliedig ar dair egwyddor graidd: ei fod yn diwallu anghenion pawb; ei fod am ddim yn y man lle mae'n cael ei ddarparu; a'i fod yn seiliedig ar angen clinigol, ac nid ar y gallu i dalu. Mae'r tair egwyddor hyn wedi arwain y gwaith o ddatblygu'r gwasanaeth iechyd dros 60 mlynedd a rhagor, ac maen nhw'n parhau'n greiddiol iddo yma yng Nghymru.
"Mae gan Gymru draddodiad cryf o weithio mewn partneriaeth gyda'n staff a'u cynrychiolwyr. Bydd meddygon o unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig sy'n fodlon dod i weithio i Gymru yn cael croeso cynnes iawn.
"Mae fy neges yn glir – hyfforddwch fel meddyg iau yng Nghymru ac fe gewch chi yrfa hyblyg a gwerth chweil lle mae eich llais yn cyfrif, yn ogystal â chyfleoedd hyfforddi sylweddol – hyn i gyd a chymaint o fannau gwych i chi dreulio eich amser rhydd.
"Dewch i Gymru, a bydd eich dyfodol chi yn rhan o'n dyfodol ni."