Mwy o Newyddion

RSS Icon
16 Tachwedd 2015

Nifer y busnesau yng Nghymru wedi cynyddu 11% er 2011

Mae Gweinidog yr Economi Edwina Hart yn annog cyw entrepreneuriaid i droi at Busnes Cymru i’w helpu i droi eu huchelgais yn realiti – wrth i’r ffigurau diweddaraf ddatgelu bod nifer y busnesau yng Nghymru wedi codi fwy na 10% o dan y Llywodraeth bresennol. 

Ar ddechrau Wythnos Entrepreneuriaid y Byd (Tachwedd 16-22), mae’r Gweinidog yn croesawu’r ffigurau diweddaraf hyn sy’n dangos bod nifer y mentrau sy’n gweithredu yng Nghymru wedi codi 11%. 

Roedd yna 231,110 o fusnesau yng Nghymru yn 2014 o’u cymharu â 207,740 yn 2011, gyda’r rheini oedd yn gweithio i’r busnesau hynny hefyd gynyddu o 998,000 i 1,058,500 dros yr un cyfnod.

Mae’r ffigurau’n dangos hefyd fod Busnes Cymru (sy’n cael ei redeg gan Lywodraeth Cymru), wedi helpu i greu 9,177 o fusnesau newydd ers ei lansio ym mis Ionawr 2013 – gan greu 12,216 o swyddi a diogelu 3,193 pellach.

Meddai Edwina Hart; “Mae’r newydd da hwn yn ein cyrraedd ar ddechrau Wythnos Entrepreneuriaid y Byd sy’n dathlu llwyddiant entrepreneuriaid ac yn ceisio ysbrydoli eraill i ddilyn eu hesiampl.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i helpu i greu busnesau newydd ac i helpu busnesau i dyfu ac mae’r ffigurau diweddaraf hyn yn dangos yn glir mor bwysig yw busnesau o ran creu swyddi, rhannu ffyniant a chyfrannu at economi Cymru.

“Rydym yn parhau i fuddsoddi yng ngwasanaethau Busnes Cymru ac yn eu gwella i helpu busnesau ym mhob cam o’u datblygiad – o’u sefydlu i’r rheini sydd am weld eu busnesau’n tyfu.

“Mae gan Gymru ddiwylliant llewyrchus o entrepreneuriaid ifanc, ac mae cyfraddau gweithgarwch entrepreneuriaid yng Nghymru gyda’r uchaf ym Mhrydain.  Wrth i Wythnos Entrepreneuriaid y Byd ddechrau, byddwn i’n annog unrhyw un sydd ag uchelgais i ddechrau busnes neu unrhyw un sydd â syniad da allai fod yn fan cychwyn i fusnes i gysylltu â Busnes Cymru i gael help i droi’r syniadau, breuddwydion a’r uchelgeisiau hynny’n realiti.

“Y llynedd, cafodd 238 o ddigwyddiadau eu cynnal yn ystod yr Wythnos yng Nghymru, gyda rhyw 17,800 o bobl yn cymryd rhan ynddyn nhw.  Roedd hynny’n arwydd bod diwylliant yr entrepreneur yn ennill ei blwyf yn ein gwlad, hynny gyda chymorth cyfres o fentrau a noddir gan Lywodraeth Cymru fel y Strategaeth Entrepreneuriaeth Ieuenctid a Her Syniadau Mawr Cymru.”

 

Rhannu |