Mwy o Newyddion
Grŵp wedi ei ffurfio i lywio ymgyrch i ddiogelu dyfodol gwasanaethau mamolaeth Ysbyty Gwynedd
Mae grŵp gyda chynrychiolaeth o Ynys Môn a Gwynedd wedi cael ei ffurfio i lywio'r ymgyrch i wrthwynebu cael gwared ar wasanaethau mamolaeth dan arweiniad meddygon ymgynghorol yn Ysbyty Gwynedd.
Mae llythyr agored hefyd wedi ei anfon at Gadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Dr Peter Higson yn galw ar y Bwrdd Iechyd i ddiogelu dyfodol Ysbyty Gwynedd.
Mae hyn yn dilyn cyfarfod cyhoeddus a gynhaliwyd ym Mangor i drafod pryderon o golli gwasanaethau merched yn Ysbyty Gwynedd a'r effaith cynyddol gallai hynny ei gael ar wasanaethau eraill yn yr ysbyty.
Mae tîm o Goleg Brenhinol Obstetreg a Gynaecoleg wedi bod yn ymweld â Gogledd Cymru i nodi opsiynau gwasanaeth cynaliadwy clinigol a diogel ar gyfer y merched sy'n derbyn gwasanaethau mamolaeth gan y Bwrdd Iechyd. Maent i fod i gyflwyno eu canfyddiadau i'r Bwrdd Iechyd cyn y Nadolig.
Mynychodd tua saith deg o aelodau'r cyhoedd y cyfarfod, a gadeiriwyd gan Gynghorydd Y Felinheli a mam i bedwar Siân Gwenllian.
Hefyd yn bresennol roedd cyn-Brif Weithredwr Awdurdod Iechyd Gwynedd, Huw Jones a chyn-Ymgynghorydd Gynaecoleg ac Obstetreg yn Ysbyty Gwynedd, Peter Tivy-Jones. Roedd cynrychiolaeth drawsbleidiol yn cynnwys Aelodau Cynulliad Plaid, Alun Ffred Jones a Rhun ap Iorwerth ac Aelodau Cynulliad Rhanbarthol Janet Haworth a Mark Isherwood.
Mae aelodau o’r grŵp yn cynnwys: Alun Ffred Jones AC (Arfon), Rhun ap Iorwerth AC (Ynys Môn), Mr Peter Tivy-Jones (cyn-Ymgynghorydd), Huw Jones (Cyn-Brif Weithredwr Awdurdod Iechyd Gwynedd), Nia Evans (Llanfair PG), Emma Mendoza (Porthaethwy), Bethany Nicholson (Caernarfon), Ceri Rhiannon (Y Felinheli) a’r Cyng. Siân Gwenllian.
Dywedodd Alun Ffred Jones AC: “Cyn i unrhyw benderfyniad gael ei wneud ar ddarpariaeth tymor hir gwasanaethau yng Ngogledd Cymru, rhaid i'r Bwrdd Iechyd ystyried yr effaith y bydd unrhyw israddio gwasanaethau yn ei chael ar fenywod, babanod a'u teuluoedd ar draws Gogledd Orllewin Cymru.
"Byddai amseroedd teithio yn cynyddu'n sylweddol, felly byddai risg o broblemau sy'n datblygu i famau a babanod yn cynyddu. Byddai'n rhaid i tua 75% o famau yng Gwynedd ac Ynys Môn deithio awr neu fwy i eni eu babanod.
"Ar ben hyn, mae'r A55 yn wynebu anhawsterau yn ddyddiol; mae mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus yn wael iawn a lefelau incwm yn isel. Byddai lleihau gwasanaethau mamolaeth yn arwain at ostyngiad pellach mewn gwasanaethau yn Ysbyty Gwynedd ac yn bygwth statws yr ysbyty yn y dyfodol.
"Am y rhesymau hyn, mae'n gwbl annerbyniol i hyd yn oed ystyried cwtogi ar wasanaethau mamolaeth yn Ysbyty Gwynedd.”
Dywedodd y Cyng. Siân Gwenllian: “Hoffwn ddiolch i'r holl ferched a rannodd eu profiadau gyda ni, gan ddangos yn glir pam y mae'n rhaid i ni gadw lefel y gwasanaeth a ddarperir yn Ysbyty Gwynedd.
"Clywodd uwch staff y Bwrdd Iechyd lawer o bwyntiau dilys yn ystod y cyfarfod. Bydd y grŵp a ffurfiwyd yn helpu i lywio'r ymgyrch wrth i’r Bwrdd Iechyd ddechrau datgelu cynlluniau tymor hir ar gyfer darpariaeth gwasanaethau mamolaeth yn Ysbyty Gwynedd.”