Mwy o Newyddion
Bryn Fôn yn cefnogi Siop Griffiths
Bryn Fôn yw'r diweddaraf i ychwanegu ei gefnogaeth i Fenter Siop Griffiths; mae o wedi gwneud fideo i dynnu sylw at yr apêl.
“Mae'r gefnogaeth fel caseg eira bellach,” meddai Sandra Roberts, Cadeirydd Dyffryn Nantlle 2020
"Dydd Mercher roeddem yn siarad efo Ysgol Dyffryn Nantlle sydd wedi penderfynu cefnogi'r prosiect, dydd Iau daeth Hywel Williams a Sian Gwenllian draw i annog pobl i gefnogi, a rŵan mae un o brif gantorion y dyffryn yn ein helpu ni efo'r hwb olaf.
"Tridiau yn unig sydd ar ôl i bobl gyfrannu ar Crowdfunder, yr apêl ar-lein (www.crowdfunder.co.uk/siop-griffiths) ond mae pythefnos yn weddill i bobl anfon sieciau."
“Mae'n amser cynhyrfus,” meddai Angharad Tomos, aelod y grŵp, “gyda chyfraniadau bach a mawr yn cyrraedd yn ddyddiol yn awr
"Neithiwr cyfrannodd y canfed person. Ron i'n amau y byddai'n anodd efo'r Nadolig yn nesau, ond mae'n dda gweld pobl yn rhoi yr hyn fedrant. Mae'n Nadolig bob blwyddyn, ond unwaith yn eich bywyd gewch chi gyfle fel hwn.”
Mae'r fenter hyd yn oed wedi cyhoeddi cerdyn Nadolig, gan adgynhyrchu cerdyn gan Siop Griffiths yn 1925, yn gwahodd pobl i roi anrheg Nadolig i achub y siop
“Daeth y cyfraniadau pellaf o Gaerdydd,” meddai Ben Gregory, yr ysgrifennydd, “ond mae dros naw deg y cant wedi dod o Ddyffryn Nantlle ei hun. Perchnogaeth gymunedol fydd i'r siop, a phobl y dyffryn fydd yn tywys y fenter.”
Y gobaith erbyn Rhagfyr 1af yw y bydd digon o arian wedi ei gasglu i brynu'r siop.
Mae Dyffryn Nantlle 2020 yn awyddus i droi y lle yn fenter gymunedol fydd yn gallu cynnig lle gwely a brecwast, caffi, canolfan hyfforddi a darparu gweithgareddau i bobl ifanc.
“Mae mawr angen lle fel hyn i alluogi'r Dyffryn i edrych ymlaen i'r dyfodol,” meddai Bryn Fôn. “Bu Siop Griffiths yn ganolfan bwysig i Benygroes am bron i ganrif. Da fyddai gweld menter newydd fydd yn para am o leiaf ganrif i'r genhedlaeth nesaf.”
Am ragor o fanylion, cysylltwch â 01286 882 134 neu 07990 587 498
Neges Bryn: https://www.youtube.com/watch?v=RjJOfcODRPA