Mwy o Newyddion
Rhaglen newydd gwerth £4.7 miliwn o gronfa'r UE i helpu pobl sydd â phroblemau iechyd i aros yn y gwaith
Bydd rhaglen newydd i helpu mwy na 4,000 o bobl sydd â phroblemau iechyd i aros yn y gwaith yn cael ei sefydlu yng Nghymru ar ôl cael hwb ariannol gwerth miloedd o bunnoedd gan yr UE.
Nod y rhaglen £4.7 miliwn, sy'n cynnwys £3.2 miliwn o gyllid yr Undeb Ewropeaidd drwy Lywodraeth Cymru, yw helpu mwy na 4,000 o bobl i gael cymorth ychwanegol i fynd i'r afael â'r rhwystrau cysylltiedig ag iechyd sydd yn eu hatal rhag aros yn y gwaith.
Bydd y rhaglen yn gweithredu yng Nghonwy, Sir Ddinbych, Gwynedd, Ynys Môn, Pen-y-bont ar Ogwr, Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe.
Bydd pobl sy'n cymryd rhan yn y rhaglen yn elwa ar fynediad cyflym i ymyriadau therapiwtig a phwrpasol. Mae’r rhain wedi’u dylunio i helpu pobl sy’n absennol oherwydd salwch hirdymor, neu sydd mewn perygl o fod mewn sefyllfa o’r fath, i aros yn y gwaith neu i ddychwelyd i'r gwaith yn gynt.
Hefyd bydd gweithwyr sydd â chyflyrau iechyd, gan gynnwys problemau cyhyrysgerbydol, salwch meddwl neu broblemau cyffuriau ac alcohol, yn gallu cael mynediad at y rhaglen drwy eu meddyg teulu, eu cyflogwr neu drwy hunan-gyfeirio.
Bydd y rhaglen ar gael i gyflogeion mewn busnesau bach a chanolig (BBaChau) yn y sector preifat a'r trydydd sector nad oes ganddynt wasanaethau iechyd galwedigaethol.
Bydd cymorth ar gael hefyd i reolwyr BBaChau a chyflogeion mewn 130 o weithdai er mwyn helpu gwella iechyd a llesiant yn y gweithle a lleihau absenoldebau oherwydd salwch.
Yn ychwanegol, bydd meddygon teulu yn cael eu cynnwys yn y rhaglen i helpu i fynd i'r afael â phroblemau iechyd eu cleifion sy'n gysylltiedig â gweithio.
Dywedodd Mark Drakeford, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: “Bydd y rhaglen cymorth-yn-y-gwaith newydd hon yn helpu mwy na 4,000 o bobl sydd â phroblemau iechyd i aros yn y gwaith.
“Bydd hyn yn helpu i fynd i'r afael â thlodi ac allgáu cymdeithasol drwy atal pobl rhag methu gweithio oherwydd problemau iechyd cyffredin, sy’n gysylltiedig a'r system gyhyrysgerbydol neu'r meddwl yn aml.
“Bydd yn darparu mynediad cyflym at ymyriadau cynnar sydd â ffocws ar weithio, gan cynnwys ffisiotherapi, therapïau seicolegol a therapi galwedigaethol.
Dywedodd Jane Hutt, y Gweinidog Cyllid: “Rydym wedi ymrwymo i helpu pobl sydd â chyflyrau iechyd sy'n cyfyngu ar eu gallu i aros yn y gwaith. Bydd y cynllun hwn yn darparu cymorth ychwanegol a phwrpasol fel y gall y bobl hynny sydd â chyflyrau iechyd aros yn y gwaith a chael dyfodol mwy llewyrchus.
“Mae hyn yn enghraifft bositif arall o sut y mae pobl Cymru yn elwa ar gronfeydd yr UE.”