Mwy o Newyddion

RSS Icon
12 Tachwedd 2015

Cau Swyddfeydd Treth - Cymdeithas yr Iaith yn collfarnu

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi collfarnu'r cynnig i gau'r swyddfeydd treth yng Nghymru, gan fynegi pryder am israddio’r gwasanaeth Cymraeg. 

Bydd 100 o swyddfeydd yn cael eu cau yn y DU yn dilyn ad-drefnu, a bydd disgwyl i swyddogion treth sydd yn gweithio mewn swyddfeydd ar draws Cymru i symud i Gaerdydd neu ogledd orllewin Lloegr.

Bydd canolfan ranbarthol newydd yn cael ei sefydlu yng Nghaerdydd, gyda swyddfeydd ym Mhorthmadog, Wrecsam ag Abertawe yn cau. Mae tua 350 o staff yn gweithio yn  Wrecsam, 300 yn Abertawe ag 20 ym Mhorthmadog.

Dywedodd Sel Jones, Is-Gadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: "Byddai cau'r swyddfeydd hyn yn ergyd mawr i'r economi a sefyllfa'r Gymraeg.

"Mae'n debyg bod y Llywodraeth yn ceisio canoli popeth yng Nghaerdydd.

"Mae'n warthus. Mae prinder gwaith yn barod, ac mae'r toriadau hyn yn dod ar ben y toriadau gan gynghorau sir. Mae llymder yn tanseilio ein cymunedau ac mae'n rhaid ei wrthwynebu'n gryf. 

"Mae'r swyddfa dreth ym Mhorthmadog yn gweithio drwy'r Gymraeg; ni fydd modd cynnal yr un lefel o wasanaeth a defnydd o'r Gymraeg yng Nghaerdydd.

"Mae angen gwasanaethau Cymraeg llawn ar ein cymunedau, yn enwedig gan ystyried nad yw gwasanaethau ar-lein y swyddfa cyllid a thollau ar gael yn Gymraeg bob tro.

"Tra bod y Llywodraeth yn taflu arian mawr at 'fargen ddinesig' i ranbarth Caerdydd, maen nhw'n cau swyddfeydd yn weddill Cymru. Iddyn nhw, mae datganoli'n cychwyn ac yn gorffen yng Nghaerdydd." 

Bydd y mudiad yn ysgrifennu at Ysgrifennydd Cymru Stephen Crabb AS er mwyn gwrthwynebu'r cynigion.  

Rhannu |