Mwy o Newyddion
Cefnogi ymgyrch gymunedol i brynu hen siop ym Mhenygroes
Mae AS Plaid Cymru dros Arfon Hywel Williams, wedi dangos ei gefnogaeth i ymgyrch leol i brynu hen siop ym Mhenygroes, sydd wedi bod yn wag ers pedair blynedd.
Mae Dyffryn Nantlle 2020 wedi bod yn gweithio ar gynnig i ddatblygu Siop Griffiths ym Mhenygroes yn fenter sy'n eiddo i'r gymuned, gyda chynlluniau i drawsnewid yr adeilad i gynnwys; gwely a brecwast, caffi, cyfleusterau hyfforddi a darpariaeth gweithgareddau awyr agored. Mae'r grŵp yn edrych i godi cyfanswm o £70,000, sy'n cynnwys £35,000 drwy apêl ar-lein, a ddaw i ben ddydd Llun nesaf (Tachwedd 16).
Mae Hywel Williams AS yn annog pobl leol a phobl o bellach i ffwrdd i gefnogi'r ymgyrch a chyfrannu at yr ymdrech codi arian.
Dywedodd Hywel Williams AS: “Mae hwn yn gyfle cyffrous i bobl Penygroes. Cymeradwyaf Dyffryn Nantlle 2020 am y gwaith y maent eisoes wedi'i wneud i hyrwyddo’r fenter gymunedol hon.
"Mae gan Siop Griffiths y potensial ar gyfer amrywiaeth eang o ddefnyddiau ar gyfer y gymuned; mae'r adeilad wedi ei leoli yn ganolog, mae yna gysylltiad lleol cryf ac mae'n rhan o hanes a o gymuned Penygroes.
"Gallai Siop Griffiths greu cyfle i grwpiau cymunedol arloesol sefydlu eu hunain yno a gellid defnyddio’r adeilad ar gyfer ystod eang o ddibenion a allai greu incwm ar gyfer prosiectau cymunedol.
"Byddwn yn gwahodd unrhyw un a hoffai gyfrannu at yr ymdrech codi arian i gysylltu â'r grŵp. Dymunaf bob hwyl i Dyffryn Nantlle 2020 gyda'u menter a byddaf yn dilyn datblygiadau yn agos.”
Dywedodd Cyn. Siân Gwenllian: “Mae grŵp Dyffryn Nantlle 2020 a'r gymuned leol yn haeddu cael eu llongyfarch am eu hymdrechion i brynu Siop Griffiths ac mae ganddynt syniadau gwych am sut i ddefnyddio'r adeilad yn y dyfodol. Rwy'n gwbl gefnogol i'r cynllun ac eu hymgyrch ac rwy'n siŵr y bydd y grŵp yn ddiolchgar am unrhyw gyfraniad.
"Mae'n wych gweld cymunedau yn dod at ei gilydd i wneud rhywbeth cadarnhaol ac rwy’n gobeithio y bydd y fenter hon yn llewyrchus, gan greu swyddi lleol a rhoi hwb i'r economi leol. Pob hwyl Criw Siop Griffiths."
Dywedodd Ysgrifennydd Dyffryn Nantlle 2020 Ben Gregory: “Rydym yn croesawu cefnogaeth ein Aelod Seneddol lleol Hywel Williams a Pencampwr Busnesau Bach Gwynedd, Siân Gwenllian, sydd wedi bod yn ein helpu i ddatblygu potensial y prosiect. Mae'r gymuned leol eisoes wedi codi £24,000, gyda mwy yn dod i mewn bob dydd. Byddem yn annog cefnogwyr sydd am roi cyfraniad ar-lein i wneud hyn yn y dyddiau nesaf.”