Mwy o Newyddion
‘Heriwch y toriadau nid pobl Gwynedd’ medd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
Dydd Sadwrn, 14 Tachwedd, am 2pm yng Nghlwb Canol Dre, Caernarfon bydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cynnal cyfarfod i drafod y toriadau arfaethedig i
wasanaethau Gwynedd.
Mae Cyngor Gwynedd yn dweud fod rhaid iddyn nhw arbed £50m a bod rhaid dod o hyd i £7m drwy dori gwasanaethau. Yn ystod mis Hydref a Thachwedd bu Cyngor Gwynedd yn cynnal cyfres o gyfarfodydd gan annog pobl i ymateb i’r ymgynghoriad ‘Her Gwynedd’.
Meddai Ben Gregory, fydd yn cadeirio’r cyfarfod dydd Sadwrn: "Dyma gyfle i unigolion a mudiadau i ddod at ei gilydd i drafod y sefyllfa argyfyngus sydd o’n blaenau.
"Gobeithiwn y bydd modd cydweithio i wrthwynebu’r toriadau i nifer o’n gwasanaethau mwyaf gwerthfawr fydd yn golygu bod pobl yn colli eu swyddi a’n bod ni yn colli gwasanaethau pwysig."
Meddai Menna Machreth, cadeirydd rhanbarth Gwynedd a Môn, Cymdeithas yr Iaith
Gymraeg: "Dros y misoedd diwethaf mae’r Cyngor wedi gofyn i bobl Gwynedd ddweud beth yr hoffen nhw ei gadw fel gwasanaethau.
"Maent yn gofyn i bobl lenwi ffurflen ar-lein lle disgwylir eu bod yn cyrraedd ffigwr o £7 miliwn o doriadau.
"Cred Cymdeithas yr Iaith fod hwn yn gwestiwn anheg sy’n gosod pobl yn erbyn ei
gilydd; efallai fod gwasanaeth nad yw’n bwysig i fi yn hanfodol i rywun arall.
"Pryderwn hefyd am ddyfodol gwasanaethau mewn ardaloedd fel gwledig Meirionydd a
gobeithiwn gynnal cyfarfod tebyg i hwn yn ne’r sir yn y dyfodol agos."
Llun: Menna Machreth