Mwy o Newyddion
Ymosod ar y Torïaid dros gynllun i gau swyddfeydd trethi Cymru
Wrth ymateb i'r newyddion y bydd pob swyddfa trethu yng Nghymru tu allan i Gaerdydd yn cau, gan gynnwys yr unig swyddfa sy'n darparu gwasanaeth galwadau yn y Gymraeg ym Mhorthmadog, dywedodd Aelod Seneddol Plaid Cymru Dwyfor Meirionnydd Liz Saville Roberts AS: "Mae hon yn ergyd fawr yn erbyn datganoli pwerau trethi i Gymru.
"Ar y naill law mae llywodraeth y DU yn barod i ganiatáu i Gymru gael mwy o reolaeth dros ei threthi, ac eto ar y llaw arall, yn fodlon i'r pwerau gweinyddu yma gael eu gwthio dros y ffin i Loegr.
"Mae hyn yn ergyd ofnadwy i'r gymuned leol ym Mhorthmadog, lle mae'r unig ganolfan alwadau Gymraeg Cyllid a Thollau wedi ei leoli, gan roi nifer o swyddi mewn perygl.
"Mae amseru'r cyhoeddiad hwn yn erchyll-rai wythnosau cyn y Nadolig.
"Mae'r swyddfa Cyllid a Thollau ym Mhorthmadog yn cyflogi tua 20 o bobl a dyma'r unig ganolfan iaith Gymraeg o'i fath yng Nghymru.
"Bydd hyn yn golygu gostyngiad mewn gwasanaeth i'r cyhoedd ac yn ergyd drom i'r economi leol.
"Fel mae adrannau eraill o'r Llywodraeth sy'n ceisio gwneud toriadau wedi darganfod, mae goblygiadau difrifol iawn i'r iaith Gymraeg petai'r swyddfa dreth ym Mhorthmadog yn cau.
"Rwy'n bwriadu codi'r mater hwn cyn gynted ag y bo modd gyda'r llywodraeth a chyflwyno'r achos cryfaf posib dros fodolaeth gwasanaeth Cymraeg o fewn cymunedau Cymraeg.
"Mae'r toriadau dinistriol yma i swyddfeydd trethi nid yn unig yn cymryd swyddi o ansawdd sy'n talu'n dda allan o'n cymunedau, ond yn peryglu'r system gasglu dreth sydd eisoes wedi ei staffio'n annigonol."