Mwy o Newyddion

RSS Icon
12 Tachwedd 2015

Leanne Wood yn ysgrifennu at y Prif weinidog yn gofyn iddo atal y Mesur Undebau Llafur

Mae arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood wedi annog y Prif Weinidog i symud at y cam nesaf o wrthwynebu Mesur Undebau Llafur adweithiol Llywodraeth y DG.

Cafodd y mesur ei drydydd darlleniad yn San Steffan yn gynharach yr wythnos hon. Pleidleisiodd ASau Plaid Cymru yn erbyn y mesur gan gefnogi gwelliannau fuasai wedi eithrio Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon o’r mesur.

Mewn llythyr at y Prif Weinidog, mae Leanne Wood wedi galw arno i amlinellu sut y bydd yn defnyddio’r broses Cydsynio Deddfwriaethol i roi bod i bleidlais ar y mesur yn y Cynulliad ac i wrthod cydsyniad.

Mae Plaid Cymru o’r farn fod y mesur yn ymyrryd â phwerau datganoledig y Cynulliad dros wasanaethau cyhoeddus, llywodraeth leol a chynllunio gweithlu.

Cyn hyn, bu Leanne Wood yn rhannu llwyfan y TUC ac Unsain gyda’r Prif Weinidog a’r Democratiaid Rhyddfrydol i fynegi gwrthwynebiad trawsbleidiol i’r mesur.

Dywedodd Leanne Wood: “Rwyf wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog yn gofyn iddo amlinellu sut y bydd yn dwyn ymlaen wrthwynebiad y Cynulliad i’r mesur hwn. Nid Plaid Cymru yw’r unig blaid fydd yn cefnogi camau i atal y mesur hwn; mae mwyafrif clir yn y Cynulliad yn ei erbyn.

“Er i ASau o Blaid Cymru a phleidiau eraill bleidleisio yn erbyn y mesur, pasiodd y Ceidwadwyr ef gyda’u mwyafrif. Rhaid i ni felly ddefnyddio datganoli fel amddiffyniad i weithwyr, yn enwedig y sawl sy’n gweithio yn ein gwasanaethau cyhoeddus. Mae’r mesur hwn yn ymyrryd â datganoli oherwydd bod y gweithlu gwasanaeth cyhoeddus yn awr yn gynyddol yn gyfrifoldeb Llywodraeth Cymru.

“Mae Aelodau Cynulliad Plaid Cymru yn ymrwymedig i wrthwynebu’r mesur a byddant yn pleidleisio gyda’r pleidiau eraill i’w wrthwynebu ac atal ein cydsyniad.

“Mae’r mesur yn ddarn adweithiol o ddeddfwriaeth ac yn mynd yn hollol groes i’r modd yr ydym ni yng Nghymru eisiau cynllunio a threfnu ein gweithlu gwasanaeth cyhoeddus.”

Rhannu |