Mwy o Newyddion

RSS Icon
12 Tachwedd 2015

Dros 5,000 o atgyweiriadau ffordd hyd yn hyn eleni yn Abertawe

Mwy na 5,000 - dyna faint o ddiffygion ffyrdd y mae Cyngor Abertawe wedi'u trwsio hyd yn hyn eleni.

Mae'r timau arbenigol yn cynnal gwiriadau ac yna'n amserlenni atgyweiriadau yn ôl blaenoriaeth ar 1,100km o ffyrdd Abertawe. Caiff oddeutu 500 o dyllau yn y ffordd a diffygion ffyrdd eraill eu trwsio, fel arfer, bob mis.

Yn ogystal â nifer o dimau sydd allan drwy gydol y flwyddyn, mae'r prosiect PATCH (Gweithredu Blaenoriaeth ar gyfer Priffyrdd Cymunedol) hefyd wedi bod yn treulio wythnosau dwys mewn cymunedau ar draws Abertawe ers canol mis Ebrill.

Mae rhai o'r cymunedau sydd wedi elwa ar ymweliadau eleni hyd yn hyn yn cynnwys Townhill, Bonymaen, Treforys a Gorseinon. Ym mis Tachwedd a mis Rhagfyr, byddant yn mynd draw i Gilâ, Dyfnant, Llandeilo Ferwallt, Ystumllwynarth, West Cross a Mayals. Erbyn y Nadolig, bydd y prosiect wedi ymweld â phob un o 32 o wardiau etholiadol Abertawe.

Meddai'r Cyng. David Hopkins, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros yr Amgylchedd a Chludiant: "Rydym yn sylweddoli mor bwysig yw cyflwr ein ffyrdd i'n preswylwyr ac ymwelwyr â'r ddinas, a dyma'r rheswm rydym yn parhau i fuddsoddi'n sylweddol yn ein rhwydwaith ffyrdd.

"Mae'n anochel yr adeg hon o'r flwyddyn y bydd ein ffyrdd yn cael eu difrodi - nid oherwydd traffig trwm yn unig, ond hefyd oherwydd y tywydd oer a gwlyb.

"Ond er gwaethaf tywydd digalon y gaeaf, bydd ein staff yn parhau i archwilio ffyrdd gan gofnodi a gwneud atgyweiriadau yn ôl trefn blaenoriaeth - ond ni allant fod ym mhob man ar unwaith. Dyma pam y byddwn yn annog modurwyr i roi gwybod i ni os ydynt yn gweld unrhyw ddifrod i'r ffordd y mae angen ei drwsio. Os yw'n achos brys, gallwn sicrhau'r cyhoedd y caiff ei drwsio o fewn 24 awr."

Yn ôl adroddiad diweddar, mae ffyrdd Abertawe ymysg y rhai a gaiff eu cynnal a'u cadw orau yng Nghymru.

Mae ffigurau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ac Uned Ddata Llywodraeth Leol yn dangos bod ffyrdd y ddinas yn yr ail gyflwr gorau o holl ardaloedd cynghorau ledled y wlad.

Llunnir yr adroddiad bob blwyddyn i gymharu perfformiad pob un o'r 22 o awdurdodau lleol ar draws amrywiaeth o wasanaethau.

Rhannu |