Mwy o Newyddion

RSS Icon
12 Tachwedd 2015

Arbenigwyr o Gymru yn cael sylw yn Medica – ffair fasnach fwyaf blaenllaw'r byd

Bydd dros wyth deg o gynrychiolwyr o Gymru yn hedfan o Gymru i  Dusseldorf y penwythnos hwn. Byddant yn mynd fel rhan o daith fasnach Llywodraeth Cymru i Medica er mwyn dwyn sylw at amrywiaeth o gynhyrchion a gwasanaethau arloesol sydd wedi ennill gwobrau. Medica yw ffair fasnach fwyaf blaenllaw'r byd.

Medica yw un o’r digwyddiadau mwyaf yn y byd ar gyfer y sector gwyddorau bywyd yng Nghymru ac eleni bydd pedwar deg dau o gwmnïau yn mynd i’r digwyddiad. Hwn yw’r nifer mwyaf i fynd yno hyd yma  ?  gydag un deg pedwar o gwmnïau’n arddangos yno a dau ddeg tri o gwmnïau yn ymweld â’r digwyddiad.

Y llynedd, gwnaeth y cwmnïau a aeth i’r digwyddiad ennill gwerth mwy na £1.4 miliwn o gontractau o fewn misoedd i’r digwyddiad ac mae rhagor i ddod. 

Mae Medica (o ddydd Llun 16 Tachwedd i ddydd Iau 19 Tachwedd) yn denu oddeutu 130,000 o ymwelwyr masnach o dros 120 o wledydd. Bydd y busnesau o Gymru sy’n mynd i’r digwyddiad yn gallu defnyddio’r fforwm i lansio cynhyrchion newydd, penodi dosbarthwyr rhyngwladol, edrych ar gyfleoedd o ran trwyddedu, cwrdd â chleientiaid a chodi eu proffil a hyrwyddo eu cynnyrch i farchnad fyd-eang.

Dywedodd Edwina Hart, Gweinidog yr Economi: “Heb os, mae Medica yn ddigwyddiad masnach allweddol i gwmnïau o Gymru. Mae’n cynnig cyfle arbennig i hyrwyddo’r amrywiaeth o arbenigedd sydd gennym yng Nghymru i gynulleidfa ryngwladol.

“Mae ein cefnogaeth yn adlewyrchu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i’r sector Gwyddorau Bywyd yng Nghymru. Mae’r sector hwnnw’n cyflogi dros 11,000 o bobl mewn oddeutu 350 o gwmnïau ac mae’n tyfu’n gyflym.”

Mae’r digwyddiad rhyngwladol a’r gyngres yn canolbwyntio ar nifer o feysydd penodol a’r rheini’n amrywio o electrofeddygaeth i gyfarpar labordy a chyfarpar diagnosteg ac o dechnoleg ffisiotherapi ac orthopedig i wasanaethau meddygol.

Mae Llywodraeth Cymru yn noddi pafiliwn Cymru yn y Neuadd Ddiagnosteg a’r Neuadd Ryngwladol. Yno, cynhelir derbynfa ar gyfer cwmnïau o Gymru a’u cleientiaid a bydd bwydydd a lluniaeth o Gymru ar gael.

Ymhlith yr arddangoswyr y mae GX o Frynbuga  ?  arbenigwyr yn y gwaith o ddylunio a datblygu offer a dyfeisiau diagnostig, gwyddonol a meddygol. Yn sgil y digwyddiad hwn y llynedd, gwnaeth y cwmni hwn ennill busnes newydd gwerth £147,000. Daeth y busnes hwnnw o gwsmeriaid yn America ac yn Iwerddon. Yn ogystal, datblygodd y cwmni gysylltiadau newydd gyda dau gwmni newydd o Gymru.

Dywedodd Claire Banks, rheolwr datblygu busnes y cwmni: “Mae’n sicrhau bod gennym y lle a’r cyfle perffaith i arddangos cynhyrchion sy’n dwyn sylw at y sgiliau eang sydd gennym i ddylunio cynhyrchion meddygol a gwyddonol i’r sector gwyddorau bywyd, ymhlith eraill.”

Mae CellPath Ltd, sydd wedi’i leoli yn y Drenewydd, yn dychwelyd i Medica am y bedwaredd flynedd ar ddeg yn olynol. Y llynedd enillodd y cwmni saith contract newydd gyda chwsmeriaid yn Nenmarc, Israel, Ffrainc, yr Almaen, y Ffindir a Chile.

Mae’r cwmni’n arbenigo mewn gweithgynhyrchu a chyflenwi cynhyrchion, neyddau traul a gwasanaethau ledled y byd ym maes histobatholoeg a sytoleg.

Llun: Edwina Hart

 

Rhannu |