Mwy o Newyddion

RSS Icon
12 Tachwedd 2015

Dwy fil o gleifion yn wynebu 12 awr o aros mewn adrannau brys bob mis

Mae Gweinidog Iechyd cysgodol Plaid Cymru Elin Jones wedi rhybuddio fod methiant y llywodraeth Lafur i ddarparu gofal digonol y tu allan i oriau yn rhoi straen ar y gwasanaethau brys. Tynnodd Elin Jones sylw at ffigyrau sy’n dangos fod dwy fil o gleifion yn gorfod aros dros ddeuddeng awr i gael eu gweld mewn adrannau brys bob mis yng Nghymru.

Dywedodd Elin Jones fod gofal y tu allan i oriau yn achos pryder gwirioneddol a dywedodd fod y llywodraeth Lafur wedi methu yn eu hymrwymiad maniffesto o ymestyn oriau agor meddygfeydd teulu. Tynnodd sylw at gau gwasanaethau meddygon teulu y tu allan i oriau yn ddiweddar yng Nghwm Taf fel enghraifft o’r penderfyniadau anghywir yn cael eu gwneud gan Lafur sydd yn achosi mwy o bwysau ar wasanaethau argyfwng ysbytai.

Dengys yr ystadegau misol am adrannau brys fod bron i 2,000 o bobl aeth i adrannau brys mawr ym mis Medi wedi gorfod aros dros 12 awr cyn cael eu derbyn, eu rhyddhau neu eu trosglwyddo. Sylwodd Plaid Cymru hefyd mai nifer cyfartalog y bobl oedd yn aros yn hwy na 12 awr bob mis yn ystod y flwyddyn a aeth yn 1,974 – gyda’r niferoedd yn uwch dros fisoedd y gaeaf.

Dywedodd Elin Jones: “Mae meddygon mewn adrannau brys yn blaenoriaethu’r sawl sydd angen gofal yn syth, a da hynny, sydd yn golygu fod cleifion gyda phroblemau nad ydynt mor argyfyngus yn wynebu aros yn hwy.

"Achosion heb fod yn rhai brys yw’r rhain yn aml y gellid eu trin trwy ofal y tu allan i oriau, ond maent yn cael eu gorfodi i fynd i adrannau brys am na wellant weld meddyg teulu.

“O ganlyniad, mae bron i 2,000 o bobl yn aros yn hwy na 12 awr mewn adrannau brys cyn cael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau.

“Yn eu maniffesto, addawodd Llafur ymestyn oriau agor meddygfeydd teulu a chael mwy o ofal y tu allan i oriau, ond methodd y llywodraeth Lafur â chyflwyno hyn.

“Mae Plaid Cymru wedi gosod allan ein cynlluniau i gynyddu’r gallu yn y gwasanaeth iechyd trwy hyfforddi a recriwtio mil yn ychwanegol o feddygon, fel bod gennym fwy o feddygon teulu yn gweithio, a mwy o le mewn ysbytai. Bydd llywodraeth Plaid Cymru hefyd yn canolbwyntio ar gyflwyno gofal mwy hygyrch yn y gymuned, fel y gall pobl gael y gofal mae arnynt ei angen cyn iddynt ddod yn achosion brys.” 

Rhannu |