Mwy o Newyddion

RSS Icon
12 Tachwedd 2015

Cymru yn gwario mwy ar iechyd ac addysg

Mae ffigurau swyddogol a gyhoeddwyd heddiw gan Lywodraeth y DU yn dangos bod gwariant y pen ar iechyd yn uwch yng Nghymru ac mae’r gwariant wedi cynyddu yn gyflymach yma nag yn unrhyw ran arall o’r DU.

Mae’r Dadansoddiad fesul Gwlad a Rhanbarth ar gyfer 2014, a gyhoeddwyd gan Drysorlys Ei Mawrhydi, yn dangos mai £9,904 y pen oedd y gwariant ar wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru – sef 11 y cant yn uwch na chyfartaledd y DU

Mae eu dadansoddiad yn dangos bod y swm o arian y mae Llywodraeth Cymru yn ei wario y pen ar iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru wedi cynyddu yn gyflymach y llynedd nag yn unrhyw ran arall o’r DU. Mae’r ffigur 7% yn uwch nad ydoedd yn Lloegr.

Roedd y gwariant y pen ar addysg yng Nghymru 4 y cant yn uwch nag ydoedd yn Lloegr.

Wrth groesawu’r ffigurau, meddai Carwyn Jones, y Prif Weinidog: “Mae’r ffigurau hyn yn cadarnhau ein bod ni’n buddsoddi mwy na Lloegr yn y gwasanaethau sydd bwysicaf i bobl Cymru.”

“Mae buddsoddi yng Ngwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru yn flaenoriaeth i’r Llywodraeth hon – rydym yn buddsoddi mwy nag erioed o’r blaen ym maes iechyd. Dyma pan ein bod ni wedi rhoi £150 miliwn yn ychwanegol i’r GIG yng Nghymru eleni.

“Mae ffigurau heddiw hefyd yn dangos ein bod ni’n parhau i wario mwy y pen ar addysg na Lloegr – mae hyn yn brawf eto fyth o’n hymrwymiad i gynnig system addysg o’r radd flaenaf yng Nghymru.

“Er gwaethaf y toriad na welwyd mo’i debyg o’r blaen o £1.3 biliwn mewn termau real i’n Cyllideb ers 2010/11, mae ffigurau heddiw yn cadarnhau ein bod wedi dal ati i ganolbwyntio ar y gwasanaethau sydd bwysicaf i bobl Cymru.”

 

Rhannu |