Mwy o Newyddion
Sied Dynion newydd Llanrwst yn helpu i roi bywyd newydd ar ôl strôc i Bryan
Mae cynllun cymunedol arloesol yn Llanrwst, sydd wedi rhoi bywyd newydd i ddyn a ddioddefodd anabledd difrifol yn dilyn strôc, wedi cael ei agor yn swyddogol.
Roedd Bryan Jones, sy’n byw yn y dref, yn gweithio fel peiriannydd rhwydwaith ffôn symudol pan gafodd ei daro gan strôc a gwaedlif ar yr ymennydd chwe blynedd yn ôl.
Yn dilyn y strôc, gadawyd Bryan, sydd bellach yn 68 oed, wedi ei barlysu ar ochr chwith ei gorff ac yn gaeth i gadair olwyn, ac mi gafodd effaith hefyd ar ei hunanhyder a chyfyngu’n ddifrifol ar ei allu i adael y tŷ.
Ond cymerodd pethau dro enfawr er gwell i Bryan wrth iddo helpu i sefydlu Sied Dynion Llanrwst. Man cyfarfod rheolaidd yw’r Sied, sy’n cynnig amrywiaeth o ddiddordebau a chwmnïaeth newydd, ac fe’i sefydlwyd gyda chefnogaeth gref gan gymdeithas tai Cartrefi Conwy.
Yn awr mae gweithdy newydd y sied, a adeiladwyd gan yr aelodau eu hunain ac sydd wedi ei leoli y tu ôl i ganolfan gymunedol Golygfa Gwydyr, wedi cael agoriad swyddogol.
Cafodd y syniad gwreiddiol ar gyfer y siediau ei greu yn Awstralia ar ddiwedd y 1990au mewn ymgais i helpu rhai dynion i oresgyn amharodrwydd traddodiadol i gymdeithasu a thrafod eu teimladau a’u lles.
Mae’r syniad wedi lledaenu’n raddol ar draws y DU, a bellach mae chwech o siediau dynion yng Ngogledd Cymru.
Esboniodd swyddog ymgysylltu â’r gymuned Cartrefi Conwy, Megan Taylor Rose, fod y gymdeithas tai wedi bod yn gefnogwr cryf o Sied Dynion Llanrwst o’r cychwyn yn ôl ym mis Ionawr.
Meddai: “Mi wnaeth nifer o ddynion o’r ardal, gan gynnwys Bryan, feddwl am y syniad o ddechrau eu sied eu hunain yn yr ardal.
“Yr mae’n ei wneud yn y bôn, yw darparu cwmnïaeth a rhywle i gyfarfod i ddynion na fyddent fel arfer yn mynd allan llawer, a gall fod yn fuddiol iawn iddynt.
“Gan ein bod eisoes wedi cefnogi prosiect tebyg a hynod lwyddiannus ym Mae Colwyn, cytunodd Cartrefi Conwy i helpu yn Llanrwst.
“Trwy gynllun Lleisiau Lleol yng Nghonwy, sy’n cael ei ariannu gan y Loteri Genedlaethol, rydym yn talu am logi Golygfa Gwydyr ar ran y sied.
“Bellach mae’r aelodau, sy’n amrywio o ran oedran o’u saithdegau i’w hugeiniau, yn cyfarfod yno nifer o weithiau'r wythnos gan ddefnyddio’r ystafell gymunedol fawr ar gyfer gweithgareddau fel celf a chrefft a TG.
“Ond rhan fwyaf cyffrous y cynllun yw’r ffaith mai’r aelodau eu hunain sydd wedi dylunio ac adeiladu’r sied bren, lle gallant wneud gweithgareddau fel gwaith coed, yn iard gefn y ganolfan gymunedol.
“Yn garedig iawn, mi wnaeth un o’n sefydliadau partner, Jewson, sydd â changen ym Mochdre, gytuno i gyflenwi’r holl goed a slabiau palmant ar gyfer y prosiect a chyfrannwyd gwerth cannoedd o bunnoedd o offer gan wraig o Lanrwst hefyd.
“Roedd yr offer yn arfer bod yn eiddo i’w diweddar ŵr ac roedd ar fin eu taflu i sgip pan glywodd am y sied newydd.”
Erbyn hyn mae gan Sied Llanrwst naw aelod. Maent yn cynnal eu cyfarfod rheolaidd bob dydd Iau rhwng 10.30yb a 12.30yp ond maent hefyd yn galw heibio ar adegau eraill o’r wythnos i gymryd rhan mewn gweithgareddau fel y dosbarth celf sy’n cael ei gynnal ar ddydd Llun.
Dywedodd Bryan Jones: “Mae wedi bod yn achubiaeth go iawn i mi oherwydd ar ôl i mi gael strôc mi wnaeth popeth newid.
“O gael swydd a oedd yn golygu fy mod o gwmpas drwy’r amser, mi gyfyngwyd yn fawr iawn ar fy ngallu i symud am fy mod mewn cadair olwyn.
“Byddwn yn mynd allan ar deithiau siopa gyda fy ngwraig Hazel ond dyna’i gyd mewn gwirionedd.
“Yna clywais am y syniad o sied dynion ac mi wnes i a chriw o ffrindiau benderfynu ceisio cychwyn un yn Llanrwst.
“Y broblem fwyaf oedd dod o hyd i’r eiddo iawn, ond diolch i’r gefnogaeth wych a gawsom gan Cartrefi Conwy, bellach mae gennym le cyfarfod yn Golygfa Gwydyr.
“Mae dod i’r sied wedi fy helpu’n fawr i gynyddu fy hunanhyder ac yn ystod y cyfnod adeiladu fy ngwaith i oedd bod yn ymgynghorydd trydanol.
“Rwy’n dal i allu defnyddio fy llaw dde, felly rwyf hefyd wedi rhoi cynnig ar ddatblygu fy ochr artistig drwy baentio llun dyfrlliw o barot.
“Rŵan rydym yn ceisio codi arian i gael mwy o offer ac rydym hefyd yn anelu at gynyddu nifer yr aelodau.”
Aelod ieuengaf y sied yw David Jones, 29 oed, o Lanrwst a ddywedodd bod y cynllun wedi ei helpu ef hefyd i newid ei fywyd er gwell.
“Roeddwn wedi bod yn gweithio fel rheolwr coedwigaeth yn yr ardal nes i mi ddechrau dioddef o iselder a gor-bryder a gorfod rhoi’r gorau i fy swydd,” meddai.
“Roeddwn hefyd newydd symud i’r ardal yn ddiweddar a doeddwn i ddim yn adnabod fawr o neb, felly roedd y ddau beth yna gyda’i gilydd yn golygu fy mod yn brin o hyder a ddim yn mynd allan yn aml.
“Roeddwn i’n un o’r rhai cyntaf i ymuno â’r sied yn gynharach eleni ac rwy’n falch iawn i mi wneud oherwydd mae wedi bod yn fendith go iawn i mi.
“Roedd adeiladu’r sied ei hun o’r newydd hefyd yn wych, oherwydd rwyf wedi dysgu llawer o sgiliau gan y dynion eraill – pethau fel sut i lifio coed yn iawn – pethau nad yw dynion fy oed i yn gwybod amdanynt fel arfer y dyddiau hyn.”
Ar ôl torri’r rhuban glas i agor y sied yn swyddogol, dywedodd Rosie Evans, cadeirydd grŵp cymunedol Golygfa Gwydyr: “Mae’n hollol wych i weld beth sydd wedi ei wneud yma ac mae’n enghraifft berffaith o’r hyn y gellir ei gyflawni drwy weithio gyda’n gilydd.
“Mae’r sied yn brosiect cymunedol gwirioneddol gwerth chweil sydd hefyd wedi dod â rhan segur o’r safle yn ôl i ddefnydd.
“Rwy’n ddiolchgar iawn i Cartrefi Conwy a Jewson am yr holl gefnogaeth y maent wedi ei rhoi i’r prosiect.”
Dywedodd Gwynne Jones, Cyfarwyddwr Gweithrediadau ar gyfer Cartrefi Conwy: “Rwy’n falch iawn bod Cartrefi Conwy wedi gallu cefnogi’r fenter gymunedol wych yma.
“Mae’r sied yn llythrennol wedi cael ei adeiladu ar yr hyn oedd eisoes yn ganolfan gymunedol lwyddiannus, ac mae wedi dod â dimensiwn cwbl newydd i’r lle.
“Mae’n helpu grŵp o ddynion na fyddent fel arfer yn ystyried cymryd rhan mewn gweithgareddau eraill.
“Rwyf hefyd yn falch bod Jewson wedi gallu darparu’r deunyddiau ar gyfer adeiladu’r sied.
“Rydym yn gweithio’n agos gyda’n contractwyr i sicrhau ein bod yn gallu cyfrannu tuag at y gymuned leol, ac yn yr achos hwn roedd Jewson mewn lle delfrydol i helpu.”
Dywedodd Amanda Williams, Rheolwr Contractau ar gyfer Jewson yng nghangen penodol Jewson ar gyfer Cartrefi Conwy ym Mochdre, a oedd yn yr agoriad swyddogol: “Rydym yn hapus i helpu’r prosiect gwerth chweil yma drwy gyflenwi’r holl goed a’r slabiau palmant oedd eu hangen i adeiladu’r sied.
“Mae wedi bod yn bwysig erioed i ni fel busnes i gefnogi’r cymunedau rydym yn gweithio ynddynt.
“Gall gweithio ochr yn ochr â phobl leol mewn prosiectau fel hyn helpu cymuned i ffynnu, ac rydym yn hynod falch o wneud rhywbeth fel hyn.
“Mae aelodau’r sied wedi gwneud gwaith gwych ac rwy’n siŵr y bydd yn mynd o nerth i nerth.”
Roedd Brian Hall, cadeirydd Sied Bae Colwyn a agorwyd yn swyddogol gyda chymorth Cartrefi Conwy fis Mehefin diwethaf, wrth law i weld rhuban yn cael ei dorri yn Llanrwst.
Dywedodd: “Mae gan y mudiad siediau dynion ei fomentwm ei hun bellach ac erbyn hyn mae gan ein sied ni dros 70 o aelodau.
“Mae’r hyn y mae’r dynion yma yn Llanrwst wedi llwyddo i’w gyflawni mewn amser mor fyr wedi gwneud argraff dda arnaf.”
Llun: John Hudson, Bryan Jones, David Jones ac Ian Hutchinson yn y sied