Mwy o Newyddion
Y diwydiant twristiaeth yn gyrru tuag at 2015 llwyddiannus wrth i Rali Cymru GB groesi'r llinell gychwyn
Wrth i un o'r prif ddigwyddiadau olaf i Gymru eu croesawu yn 2015 gychwyn y penwythnos hwn, mae ffigurau a ryddhawyd ddoe, 10 Tachwedd, yn dangos bod diwydiant twristiaeth Cymru wedi gweld twf cryf hyd yma yn 2015, hyd yn oed o'i chymharu â ffigurau 2014 - y flwyddyn orau erioed ar gyfer twristiaeth yng Nghymru.
Mae Arolwg Twristiaeth Prydain ar gyfer Ionawr - Gorffennaf 2015 yn dangos bod y nifer o ymwelwyr o'r DU a arhosodd dros nos yng Nghymru wedi codi 5% ac mae'r swm a gafodd ei wario gan yr ymwelwyr hyn wedi cynyddu 18% ers 2014.
Mae Rali Cymru GB yn un o ddigwyddiadau blaenllaw Cymru, a dyma'r digwyddiad olaf eleni a gefnogir gan Lywodraeth Cymru. Hanfod ei bwysigrwydd yw bod y digwyddiad yn denu ymwelwyr i Gymru rhwng harddwch yr hydref a phrysurdeb y Nadolig a thrwy hynny'n rhoi hwb i westai a busnesau. Yn ddiweddar, cyhoeddwyd estyniad i bartneriaeth lwyddiannus Llywodraeth Cymru ag International Motor Sports sy'n golygu y bydd y Llywodraeth yn cefnogi Rali Cymru GB am dair blynedd arall.
Bydd Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth Edwina Hart yn mynd i seremoni cychwyn Rali Cymru GB, a dywedodd: "Rwyn hynod falch bod Rali Cymru GB yn cael ei chynnal yng ngogledd Cymru unwaith eto y penwythnos hwn, a bod y niferoedd sydd yn cystadlu yn uwch nag erioed.
"Mae hyn yn dangos fod y digwyddiad yn profi'n boblogaidd gyda cystadleuwyr a gwylwyr fel ei gilydd. Mae gogledd Cymru yn darparu rhai camau rali rhagorol, gan gynnwys camau coedwigoedd gwych.
"Mae'n gwneud llawer iawn i godi proffil y sector hwn yn rhyngwladol. Mae'r sector modurol yn dod â £ 3 biliwn i'r economi bob blwyddyn ac mae’r berthynas rhwng llwyfannu Rali Cymru GB a’r sector yn un gryf. Mae’r digwyddiad yn gwneud llawer i godi proffil y sector hwn yn rhyngwladol. Mae Cymru yn gartref i oddeutu 150 o gydran a gweithgynhyrchu systemau gwmnïau ac mae 15,000 o bobl eu cyflogi mewn gweithgynhyrchu modurol.”
Bydd y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth Ken Skates yn mynd i seremoni cau Rali Cymru GB, a dywedodd: "Mae Rali Cymru GB yn ddigwyddiad o'r radd flaenaf ac roedd dod â'r digwyddiad i'r Gogledd yn chwip o syniad gan fod y digwyddiad wedi mynd o nerth i nerth.
"Fy ngobaith yw y bydd y rali eleni'n fwy ac yn well nag erioed. Mae Rali Cymru GB wedi datblygu proffil cryf yng nghalendr Pencampwriaeth Ralio'r Byd, sy'n dangos gallu Cymru i gynnal amrywiaeth eang o ddigwyddiadau mawr. Mae'r Rali'n darparu llwyfan perffaith i dynnu sylw at rinweddau niferus Cymru, gan gynnwys ei thirwedd drawiadol.
"Yn ôl yr amcangyfrif, cyrhaeddodd y sôn am y rali yn y cyfryngau y llynedd gynulleidfa ryngwladol o 60 miliwn.
"Un yn unig o'r rhesymau pam bod y diwydiant twristiaeth yng Nghymru mewn sefyllfa mor gryf yw ein llwyddiant o ran croesawu digwyddiadau mawr. Byddwn yn gweithio gyda'r diwydiant twristiaeth i sicrhau ein bod yn parhau i gynnal y ffigurau ardderchog hyn.
"Un o'n mentrau allweddol yw rhoi themâu i flynyddoedd - gan gychwyn â Blwyddyn Antur yn 2016. Bwriad Blwyddyn Antur yw manteisio ar yr holl atyniadau a datblygiadau newydd cyffrous sydd wedi agor, ynghyd â dros 10 mlynedd o fuddsoddi parhaus i wneud Cymru'n un o gyrchfannau antur blaenllaw'r DU. Bydd yn peri i bobl deimlo bod yn rhaid iddyn nhw ymweld â Chymru - nawr."
Rhwng mis Ionawr a mis Gorffennaf 2015, cynyddodd nifer y teithiau i Gymru 5.0 y cant o'i gymharu â'r un cyfnod ym 2014 - roedd 5.7 miliwn o ymweliadau dros nos â Chymru gan ymwelwyr o'r DU. Mae gwario ar ymweliadau â Chymru yn ystod saith mis cyntaf 2015 wedi cynyddu 18.0 y cant - i fwy na £1 biliwn - o'i gymharu â'r un cyfnod yn 2014. Ar gyfer Prydain Fawr yn ei chyfanrwydd, roedd y gwariant ym misoedd Ionawr-Gorffennaf wedi codi 15.6 y cant o'i gymharu â'r cyfnod hwnnw yn 2014.
Yn ôl Arolwg Twristiaeth Prydain ar gyfer mis Ionawr i fis Medi, mae nifer yr ymwelwyr undydd wedi gostwng. Mae'n bosibl bod hyn oherwydd bod pobl yn dod yma ar dripiau hwy, yn hytrach nag ymweliadau undydd. Fodd bynnag, mae gwario ar ymweliadau dydd â Chymru wedi cynyddu 2% yn ystod naw mis cyntaf 2015 sy'n golygu bod Cymru'n denu ymwelwyr sy'n gwario mwy.
Gallwch weld Arolwg Twristiaeth Prydain drwy glicio ar y ddolen ganlynol: http://gov.wales/statistics-and-research/great-britain-tourist-survey/?skip=1&lang=cy