Mwy o Newyddion
Caniatâd cynllunio i ardal arloesi gwerth miliynau
Mae cynlluniau uchelgeisiol Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant i ddatblygu Ardal Arloesi Glannau Abertawe yn ardal SA1 y ddinas wedi cymryd cam mawr ymlaen heddiw yn dilyn cymeradwyaeth caniatâd cynllunio amlinellol gan Gyngor Dinas a Sir Abertawe.
Yn ystod cyfarfod o Bwyllgor Cynllunio’r Cyngor brynhawn ddoe, fe wnaeth y prosiect hwn sy’n werth miliynau o bunnoedd dderbyn caniatâd cynllunio amlinellol. Canmolodd hefyd aelodau'r Pwyllgor natur gynhwysfawr y prif gynllun ac am y gwaith ymgysylltu a chydweithio y mae’r Brifysgol wedi’i gyflawni gyda rhan-ddeiliaid allweddol.
Dywedodd yr Athro Medwin Hughes, Is-Ganghellor Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant : "Rydyn ni wrth ein bodd â’r penderfyniad hwn a hoffwn ddiolch i Gyngor Dinas a Sir Abertawe am ei gefnogaeth a’i frwdfrydedd parhaus.
"Rydyn ni hefyd yn ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am ei chefnogaeth sydd wedi galluogi'r Brifysgol i wireddu ei gweledigaeth.
"Yn ogystal, hoffai’r Brifysgol ddiolch i bawb a gyfrannodd yn ystod y cyfnod ymgynghori cyhoeddus a gynhaliwyd yn gynharach eleni.
"Cawson ni adborth eang a chadarnhaol yn sgil yr ymgynghoriad ac, o ganlyniad, roedd modd i ni gyflwyno uwch-gynllun cadarn a llwyddiannus.
"Mae Ardal Arloesi Glannau Abertawe yn cynnig cyfle unigryw i’r Drindod Dewi Sant greu prifysgol ddinesig, newydd i Gymru. Nid campws Prifysgol cyffredin arall fydd hwn, ond yn hytrach, cymuned, integredig lle gall pobl fyw, dysgu, gweithio a chwarae.
"Trwy weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a Chyngor Dinas a Sir Abertawe, bydd Ardal Arloesi Glannau Abertawe yn cyfrannu at yr uchelgais i ddatblygu strategaeth 'Rhanbarth Dinas Greadigol' ac yn ehangu enw da Abertawe fel 'Dinas Arloesi'."
Fel rhan bwysig o fuddsoddiad sylweddol y Brifysgol yn Abertawe, mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi prynu darnau eang o dir sydd ar ôl i’w datblygu yn ardal Glannau SA1.
Mae'r uwch-gynllun yn cynnwys cynigion i ddatblygu cyfleusterau pwrpasol ar gyfer dysgu, addysgu ac ymchwil cymhwysol yn ogystal ag ardaloedd cymdeithasol, hamdden a mannau difyrrwch ehangach.
Mae Ardal Arloesi Glannau Abertawe yn ddatblygiad dinesig uchelgeisiol a fydd yn cyflwyno amgylchedd dysgu arloesol, cynhwysol ac ysbrydoledig newydd wrth gysylltu addysg ag arloesi a menter.
Bydd yr Ardal Arloesi yn caniatáu gwasanaethau myfyrwyr craidd, gan gynnwys cymorth i fyfyrwyr, Undeb y Myfyrwyr, ynghyd â llyfrgell a chyfleusterau chwaraeon a hamdden a fydd yn eistedd yn cyd-fynd â chyfleusterau cymunedol a masnachol.
Mae gweledigaeth y Brifysgol ar gyfer y datblygiad hwn yn creu dechrau newydd i SA1 ar sail treftadaeth y ddinas ac arloesedd yn ei yrru. Bydd yn cael ei wireddu drwy gydweithrediad a phartneriaeth â chymunedau lleol; busnes a diwydiant; staff a myfyrwyr y Brifysgol; yn ogystal â Llywodraeth Cymru a Chyngor Dinas a Sir Abertawe.
Y nod hirdymor yw creu Ardal Arloesi a fydd wedi’i lleoli mewn ardal fywiog, fodern gyda mynediad hwylus at ganol y ddinas. Mae amcanion y datblygiad yn cynnwys: ?
* Cefnogi a gwella profiadau’r myfyriwr
* Cyfrannu at hyfywedd a chynaliadwyedd parhaus y Brifysgol
.* Ysgogi buddsoddiad a manteision economaidd i Abertawe, Dinas-Ranbarth Bae Abertawe a thu hwnt
* Darparu cyfleoedd i arallgyfeirio ffrydiau incwm wrth i’r Brifysgol fanteisio ar ei chysylltiadau â’r sector preifat
* Sefydlu presenoldeb sylweddol i’r Brifysgol yn ardal Glannau SA1 erbyn 2018
Yn dilyn cymeradwyaeth amlinellol Cyngor Dinas a Sir Abertawe ar gyfer defnydd safle SA1, bydd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant nawr yn mynd ati i ddechrau ar y dyluniad manwl o'r cam cyntaf o’r prosiect a fydd yn weithredol erbyn 2018. Bydd y dyluniadau hyn yn cael eu cyflwyno i Gyngor Dinas a Sir Abertaw